Hoffwn sôn ychydig am rywun sydd yn annwyl iawn iawn gennyf. Mae pawb ohonom, o’r ieuengaf i’r hynaf, yn ei hadnabod a’i charu.
Dwi ‘di nabod hon erioed. Bu ei gofal a’i chariad yn rhan o wead fy mywyd i o’r dechrau. Fy nghof cyntaf amdani yw rhoi fy llaw yn ei llaw hi, a’r ymdeimlad o ddiogelwch a lifai i’m calon wrth wneud hynny. Er fy mod i wedi tyfu tipyn ers hynny, braf o hyd yw cael rhoi fy llaw yn ei llaw hi, a theimlo o’r newydd yr hen ddiogelwch hwnnw.
Cofiaf hefyd, a finnau yn fy arddegau cynnar holl wybodus, bod pellter wedi tyfu rhyngom â’n gilydd. ‘Roeddwn yn ystyried fy hun, yr adeg letchwith honno yn fy mywyd, i fod yn llawer llawer rhy aeddfed a chall i roi fy llaw yn yr hen law cnotiog, creithiog honno. Arhosodd amdanaf, chwarae teg, gan gadw golwg arnaf o bell.
Gyda’r blynyddoedd, mi ddois yn fwyfwy ymwybodol o hyd a lled ei dylanwad hi, o ddyfnder ac uchder ei chyfraniad hi. ‘Roedd hon yn gallu newid awyrgylch byw pobl: daeth cadernid a llawenydd i lanw bywyd rhywrai o’i herwydd. Clustfeinient am sŵn ei llais, nid oedd gwahaniaeth at bwy na phryd y gelwid hi, nid oedd na chyfaill na gelyn, dydd na nos, cyfleus nac anghyfleus iddi, dim ond angen y sawl a alwai arni. Ganddi ddysgais ystyr cariad: mae ei hysbryd yn llawn ohono. Ni chawn fychanu neb yn ei chwmni, a rhoddai daw a’r gecru ei phlant â gair syml, tyner gadarn. Un o’r pethau a garaf amdani yw ei thuedd i weld cywion y frân - bob un - yn wyn. Mae hon yn mynnu peidio gweld drwg ym mhobl, ond os digwydd iddi ddarganfod neb yn troseddu, mae’n fflamio’n wyllt, ac nid da i’r troseddwr yw aros yn ei chwmni, yn enwedig os gwnaethai ei ddrygioni yn ei henw hithau.
 minnau bellach wedi closio ‘n ôl ati, teimlaf awydd angerddol ambell waith i’w hamddiffyn. Rhag beth, wn i ddim yn iawn, oherwydd cryf o gorff a meddwl ydyw o hyd. Mae hon yn heneiddio heb fynd yn hen rhywsut - gall hon ofalu’n iawn am ei hunan; nid oes angen fi arni i’w hamddiffyn a’i chynnal wir! Gan gydnabod hynny, mae arnaf awydd weithiau o hyd i’w chadw rhag atgasedd a ffolineb ambell un, ond yn waeth o lawer na hynny, i mi o leiaf, yw difaterwch ei phlant ei hun - plant a magwyd ar ei haelwyd, gyda gofal cynnes a thyner, ond sydd erbyn hyn yn brysur fyw eu bywyd hebddi. Gwelaf nawr, mai teimlo yr ydwyf, rhywfaint - y mymryn lleiaf - o artaith y croeshoelio sydd ar ei hysbryd tyner wrth ymdrin â byd caled, creulon; ac â phobl ddiog, ddifater.
Hawdd ganddi gydymdeimlo â phobl. Yn wir mae’n cyd-ddioddef â hwy. Ar lan y bedd y cawn hi agosaf atom o bob achlysur, am mai yno y galwn fwyaf arni am gysur a chymorth i fyw. Ond gwelwn arni, yn amlwg ddigon, ôl pwysau ein disgwyliadau ohoni. Da yw cael y cyfle hwn, heddiw, i fynegi hynny: i gydnabod i mi ddeall hynny, a bod hi wedi, ac yn parhau i losgi’r cwbl o’i nerth er fy lles a’m bendith i a’m tebyg. Nid edifar hynny ganddi cofiwch. Rhaid i ddynes o’i thymheredd hi ymdaflu yn gorff, ac enaid i wasanaeth eraill. Buasai’r ychydig a enillai hon trwy gynilo amser a nerth yn ddim byd ond carchar iddi. Rhaid, a rheidrwydd i hon erioed yw byw fel fflam olau, fel afon yn llifo.
Pe baswn yn artist, baswn am osod ei wyneb ar gynfas: wyneb prydferth, o bryd cymharol dywyll, a’i chroen wedi aeddfedu dan bwysau heulwen a chawod, gydag elfen bendant o ddireidi yng nghil ei llygaid. Mynnwn hefyd, osod yn ei llygaid ryw gymaint o drueni a thrasiedi ei byw. Anorffenedig fyddai unrhyw ddisgrifiad ohoni heb sôn am ei dwylo. Maent yn gryf, ac yn dyner, yn brydferth ac yn gadarn. Dwylo creithiog fel dwylo Crist.
Heddiw, y Sul arbennig hwn, mynnaf gyfle i ddiolch i Dduw amdani. Mae hon fel plentyn gyda’r plant; yng nghanol cwmni o bobl ifanc uchel eu sbri a’u sŵn, hithau yw’r mwyaf egniol a swnllyd ohonynt i gyd. Clywir ei llais arian yn tonni trwy fyd caled diflas o hyd; gwelir hi o hyd fyth wrth ei gwaith, yn cario’r gwan a chynnal y cloff. Gweithio hyd at greithio mae hi nawr fel erioed, yn gryf a chyhyrog, yn dal, yn llydan, ac yn wahanol. Mae’r hon a achubodd enaid Cymru ar hyd y canrifoedd yn cloffi braidd heddiw, nid ei henaint yn gymaint sydd yn dangos, ond diffyg gofal ei phlant ohoni.
Er gwaethaf hynny, mae hi’n fyw, gwreiddiol, cryf, cain, cadarn - tarian ein bywyd yw hi. Hon a ddywed wrthym o hyd mai ffydd, gobaith a chariad yw’r pethau pwysicaf mewn bywyd, a hon sy’n meithrin y pethau hyn o hyd. O’i pharchu eto, gorseddir y pethau hyn o’r newydd yng nghalonnau eu plant, ac yn ymwybyddiaeth y genedl.
(OLlE)