O briodferch, y mae dy wefusau’n diferu diliau mêl,
y mae mêl a llaeth dan dy dafod ...
(Caniad Solomon 4:11 BCN)
Wrth sôn am wefusau ei ddyweddi, mae’r cariad yn amlwg yn siarad am eu melyster. Y mae wedi ei ddenu ganddynt, ac ni wêl ond yr ochr deg. Mêl yw’r cyfan.
Ond dylid sylweddoli, wrth gwrs, mai’r defnydd a wneir o’r gwefusau sydd yn penderfynu ai teg a melys ydynt. Gall gwefusau deniadol fod yn gas iawn. Nid yw’r Beibl heb sylweddoli’r niwed y gall gwefusau drwg wneud: fe’u cyffelybir i sarff a dywedir fod gwenwyn asp o danynt! Mor groes yw mêl a gwenwyn! Eto gall y naill neu’r llall ddod o’r gwefusau: dibynna’r cwbl ar y defnydd a wneir ohonynt.
Benthycwn brofiad y Salmydd yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:
Arglwydd, agor fy ngwefusau, a bydd fy ngenau yn mynegi dy foliant (Salm 51:15 BCN).
(OLlE)