Pan agorais i’m cariad,
yr oedd wedi cilio a mynd ymaith,
ac yr oeddwn yn drist am ei fod wedi mynd;
chwiliais amdano, ond heb ei gael;
gelwais arno, ond nid oedd yn ateb.
(Caniad Solomon 5:6 BCN)
Stori serch ddigon naturiol yw hon: y mae iddi ei munudau o wynfyd ac o siom. Siom yr un a fu’n rhy hir yn ymateb sydd yma. Erbyn agor y drws, ciliodd yr anwylyd. Trist yw’r profiad: ceisio heb ei gael a galw heb gael ateb ... chwiliais amdano, ond heb ei gael.
Gwyddai pobl Dduw hefyd am y profiad o fod hebddo am nad oeddynt wedi ymateb yn brydlon. Ciliodd Ysbryd yr Arglwydd oddi wrth Saul (1 Samuel 16:4) a gwyddai yntau am yr ing o fod yn unig: Duw a giliodd oddi wrthyf, ac nid yw yn fy ateb mwyach (1 Samuel 28:15 WM). O ddyddiau Elias hyd awr ing Gethsemane a loes Calfaria, bu pobl yn profi’r unigrwydd hwn: Fy Nuw, fy Nuw, paham y'm gadewaist? (Marc 15:34). Profiad cyffredin i bobl Dduw yw teimlo’n amddifad o Dduw; peth real ydyw.
Benthycwn brofiad y John Roberts (1910-84) ac Eben Fardd (1802-63) yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:
Pan fwyf yn teimlo’n unig lawer awr
heb un cydymaith ar hyd llwybrau’r llawr,
am law fy Ngheidwad y diolchaf i
â’i gafael ynof er nas gwelaf hi.
O fy Iesu bendigedig,
unig gwmni f’enaid gwan ... Amen