Yn yr Oedfa Foreol Gynnar (9/4; 9:30 yn y Festri), yr Wythnos Fawr fydd testun sylw’r Gweinidog. Byddwn yn dilyn ôl troed Iesu gyda’n dwylo! Bydd paent ac annibendod; cawn hwyl a bendith.
Bydd brecwast bach a nwyddau Masnach Deg yn y Festri rhwng y ddwy Oedfa Foreol a bydd cyfle i gyfrannau nwyddau tuag at Fanc Bwyd Caerdydd yn ystod y dydd.
‘Dioddefaint’ neu ‘Blodau’? Dyna’r dewis! Er bod yn well gan Owain ‘Blodau’, ei ddewis i’r Oedfa Foreol (10:30) yw ‘Dioddefaint’. Echel y bregeth fydd Mathew 26:14-27 gan ganolbwyntio ar y ddau gwestiwn a holir gan Jwdas: Beth a rowch imi ...? ac Nid myfi yw, Rabbi?
Crëwyd sawl cyfeillgarwch annisgwyl o gwmpas croes Iesu Grist. Daeth y bobl fwyaf annhebygol i berthynas newydd â’i gilydd wrth droed croes Iesu, ein Harglwydd: Pilat a Herod, Caiaffas a Cesar, Jwdas a’r Sanhedrin. Neges pregeth yr Oedfa Hwyrol (18:00) yw nad oes angen i bobl ffydd ofidio am rain! Pam? Mae Duw yng Nghrist yn cymodi’r byd ag ef ei hun (2 Corinthiaid 5:19).
Nos Iau Cablyd (13/4; 19:30 yn y Festri) cynhelir Oedfa Tenebrae. Y Lladin am ‘gysgodion’ neu ‘tywyllwch’ yw Tenebrae. Trwy gyfrwng tawelwch a llonyddwch, myfyrdod a chân, bara a gwin awn i’r cysgodion i ddarganfod y goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu ef (Ioan 1:5).
Oedfa Gwener y Groglith (14/4 14:00) dan nawdd Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd yn Eglwys Dewi Sant; pregethir gan y Parchedig Rhian Linecar. Gweddïwn am wenau Duw ar yr Oedfa arbennig hon.