... dyma’r ffrwyth mae’r Ysbryd Glân yn ei dyfu yn ein bywydau ni: cariad, llawenydd, heddwch dwfn, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder a hunanreolaeth (Galatiaid 5:22,23 beibl.net).
Y rhinweddau a enwir gan Paul yn ei lythyr at bobl Iesu yn Galatia yw echel gwaith yr Ysgol Sul a PIMS y flwyddyn waith hon. Gweddïwn am fendith ein Duw, awdur pob rhinwedd a ffynhonnell pob daioni, fel y gall yr ifanc yn ein plith dyfu mewn ffydd a chynyddu ymhob rhinwedd da. Echel y sgwrs blant a’r wers Ysgol Sul bore Sul fydd daioni. Gweddill yr Oedfa bydd Owain yn parhau â’r gyfres o bregethau ‘Pobl y Testament Newydd’. Yn destun sylw gennym fore Sul fydd deuddeg a thrigain o bobl y Testament Newydd! Wedi hynny penododd yr Arglwydd ddeuddeg a thrigain, a’u hanfon allan o’i flaen (Luc 10:1 BCN). Ystyrir y deuddeg a thrigain cyn y daith, ar y daith ac wedi’r daith.
Bydd casgliad rhydd Oedfaon y dydd er budd Cymorth Cristnogol: Apêl Argyfwng Dwyrain Affrica.
Wedi’r Oedfa, cawn gyfle i barhau ein gwasanaeth yn y Tabernacl, yr Âis. Ein braint pnawn Sul (14:30) fel eglwys, fydd cael bod yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref.
Un o’r pethau anffodus heddiw yw’r ysbryd dof sy’n nodweddu ein cenhadaeth a’n gweinidogaeth fel pobl Crist. Ni fyddech byth yn dychmygu neb yn cael ei gythruddo gan grefydd a chrefydda mor llipa! Ond peidied neb â chredu bod y tueddiadau hynny’n unwedd â hanes canolog y grefydd Gristnogol. Darllened Actau 19: 21-41! Dyma’r Efengyl yn bygwth, herio a dymchwel. Y mae’r Efengyl yn aflonyddu’r byd. Oni bai am gysgadrwydd ein crefydda dof byddai hyn o wirionedd mor eglur â’r dydd. Pan gyrhaeddodd yr Efengyl Siambr Fasnach Effesus yr oedd ffrwydrad yn anorfod. Beth bynnag a wnawn ni ohoni, y mae hanfod yr Efengyl yn ffrwydrol - chwyldroadol ydyw. Ein gwestai arbennig nos Sul fydd Demetrius, y gof arian. Cawn ganddo gip olwg ar ddigwyddiadau a goblygiadau’r cynnwrf mawr yn Effesus.
Bydd y gymdeithas yn parhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.
Gan fod ein Gweinidog yn gwasanaethu mewn angladd ym Machynlleth pnawn dydd Llun bydd rhaid gohirio Genesis.
Bethania nos Fawrth (21/3; 19:30-21:00). Diolch i Margaret am ein croesawu. Y thema yw Cyfeillion Paul. Testun ein y sylw yn cyfarfod hwn bydd Timotheus.
Braint ein Gweinidog yw cael gwasanaethu ym Mhenrhys bore Mercher (22/3 10:30).
Cynhelir cyfres o fyfyrdodau dros gyfnod y Grawys dan nawdd Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd. Mr Ion Thomas fydd yn arwain yr olaf o’r cyfarfodydd buddiol hyn, ym Methel, Rhiwbeina (23/2; 19:30). Y thema fydd ‘Derbyn Crist trwy Weddi a Chymdeithas’. Gweddïwn am wenau Duw ar waith a chenhadaeth Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd.
Bore Gwener (10/2; 11:00): ‘Llynyddwch’. Paned wrth ymyl llyn llonydd y Rhath. Yn Terra Nova cawn gyfle i drafod, fesul pennod, llyfr Rowan Williams: Choose Life (Bloomsbury, 2013). Echel ein trafodaeth fore Gwener fydd Happiness or Joy? (t.191-199).