Bore Sul, Oedfa i’r Teulu a Chymundeb am 10:30. Cyflwynir neges y Pasg mewn bocs wyau! Wrth y bwrdd, ceir tri phen i homili’r Gweinidog: Cyhoeddi Ffaith; Cyhoeddi Ffydd a Chyhoeddi Ffordd.
Wrth y bwrdd cawn eto gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint.
Er nad yw plant yn cymuno yn eglwys Minny Street, mae’n fwriad gennym fod y plant a’r plantos yn dysgu beth yw arwyddocâd y ddefod hon. I wneud hynny, rhaid iddynt ddeall beth sydd yn digwydd, ac o’r herwydd symleiddiwyd yr eirfa ac addaswyd y delweddau’r mymryn lleiaf i gynnwys, addysgu a pharatoi’r ifanc yn ein plith.
Bydd paned yn y Festri wedi’r Oedfa.
(Bydd ein Gweinidog hefyd yn pregethu yng Nghanada bore Sul. Gweddïwn am wenau Duw ar weinidogaeth a gwasanaeth Eglwys Dewi Sant, Toronto.)
Fel parhad o’r gyfres pregethau ‘Pobl y Testament Newydd’ bydd ein Gweinidog yn sôn, nos Sul (Oedfa Hwyrol 18:00) am Demas. Meddai Paul fel hyn amdano: Demas a’m gadawodd, gan garu y byd presennol, ac a aeth ymaith i Thesalonica (2 Timotheus 4:10a). Mae’n debyg mai Thesalonica oedd cartref Demas, ac iddo ymuno â phobl y Ffordd fel canlyniad i genhadaeth Paul yno. Bu’n gydymaith i Paul, yn gydweithiwr brwd. Ymddengys er hynny i’r brwdfrydedd hwnnw ddiflannu wrth i anawsterau dilyn Ffordd Iesu Grist ddod i’r amlwg, ac wedi gweld Paul yn y carchar, sylweddolodd Demas beth oedd pris dilyn Iesu. Penderfynodd bod y pris yn ormod, a dychwelodd i’w gynefin yn Thesalonica.
Boed bendith ar Oedfaon y dydd.
Bydd paned yn y Festri wedi’r Oedfa Hwyrol i bawb sy’n aros ymlaen i’r gyngerdd!
Cyngerdd (20:00) gan Gôr Merched Canna (arweinydd: Delyth Medi Lloyd) a ffrindiau yng Nghapel Minny Street er budd elusen yr eglwys, Tŷ Hafan ac Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.
Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth iddynt edrych a threfnu i’r Sulgwyn ac ymlaen.
Bethania nos Fawrth (4/4; 19:30-21:00). Diolch i Dianne am ein croesawu. Y thema yw ‘Cyfeillion Paul’. Testun ein y sylw yn cyfarfod hwn bydd Pedr).
Koinônia amser cinio dydd Mercher (5/4; 12:00): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.
Babimini bore Gwener (7/4; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin.