SALM 119 - GRAWYS 2017

Salm 119:17-32

Y mae’r Testament Newydd yn frith o wahanol enwau a roddir ar yr Arglwydd Iesu gan y Cristnogion cyntaf yn eu hymgais i gyflwyno ei neges i’w cyfoedion. Un ohonynt yw y Ffordd. Mewn ateb i gwestiwn Thomas ar sut i fynd at y Tad, meddai Iesu, Myfi yw’r ffordd, a’r gwirionedd a’r bywyd (Ioan 14:6). Yn Actau’r Apostolion y mae’r disgrifiad hwn yn cael ei ddefnyddio am y grefydd Gristnogol yn ei chrynswth. Teithio i Damascus i chwilio am rywrai o bobl y Ffordd (9:2) ‘roedd Saul pan gafodd dröedigaeth.

Fel y rhan fwyaf o enwau Iesu, daw hwn hefyd o’r traddodiad Iddewig. Yn yr Hen Destament y mae i'r syniad o ffordd le amlwg iawn. Gweddi feunyddiol y salmydd yw:

Dysg i mi dy ffordd, O! ARGLWYDD.

Arwain fi ar hyd llwybr union. (Salm 27:11)

Sylwn fel y mae’r gair ffordd yn cael ei ddefnyddio yn y rhan fechan hon o Salm 119. Y mae ffordd ffyddlondeb yn cael ei chyferbynnu â ffordd twyll, a cheir pwyslais cyson ar ffordd gofynion a gorchmynion Duw. Hyd heddiw, yr enw technegol a ddefnyddir gan yr Iddew i ddisgrifio cyfreithiau crefyddol yw Ffyrdd.

‘Roedd y Salmydd yn ffyddiog mai’r Gyfraith oedd y ffordd i gymodi pobl â Duw. Dim ond iddo ddilyn llwybr gofynion yr Arglwydd yn ddiwyro, fe fyddai person yn gadwedig. Ond nid yw cyfraith, ohoni ei hun, yn mynd yn ddigon pell, oherwydd ni fedr byth wneud pobl ddrwg yn bobl dda - fel y gwelodd Moses yn yr anialwch. Dyna pam yr anfonodd Duw ei Fab ei hun i’r byd, er mwyn agor ffordd newydd a byw ... i ni drwy’r llen (Hebreaid 10:20). Nid dangos y ffordd y mae Iesu, ond ein sicrhau mai ef yw'r ffordd.