'Munud i Feddwl' ein Gweinidog
Christopher Smart (1772-1771)
Let Tyrrel, house of Tyrrel rejoice with Sardius Lapis an Onyx of a black colour. God speed Hawke's Fleet.
Let Moss, house of Moss rejoice with the Pearl-Oyster behold how God has consider'd for him that lacketh.
Let Ross, house of Ross rejoice with the Great Flabber Dabber Flat Clapping Fish with hands. Vide Anson's Voyage and Psalm 98th ix.
... the Great Flabber Dabber Flat Clapping Fish with Hands: Llinell o gerdd gan y bardd-bregethwr Christopher Smart (1772-1771), Jubilate Agno (Adran D; llinell 11)
Ar derfyn y llinell hon: ... the Great Flabber Dabber Flat Clapping Fish with Hands ceir cyfeiriad at y gyfrol Anson’s Voyage oedd yn adrodd hanes mordaith George Anson (1697-1762). Cyfraniad pwysig a phoblogaidd i astudiaethau natur y ddeunawfed ganrif oedd Anson’s Voyage; o fewn y gyfrol gwelid llun o leden yn neidio allan o’r dŵr, a morlo yn defnyddio ei esgyll fel dwylo: The Great Flabber Dabber Flat Clapping Fish with Hands Ceir hefyd gyfeiriad i’r Salmau. Yn Salm 98 gorchmynnir i’r dyfroedd guro dwylo. Flabber Dabber yw sŵn y morlo yn curo’i esgyll. Flabber Dabber yw sŵn dyfroedd yn curo dwylo. Mae angen meddwl eang i gyd-feddwl â Christopher Smart ond llwydda ei ddychymyg byw a byrlymog i gyplysu gwyddoniaeth ei gyfnod â chlod y Salmydd.
Barnwyd Christopher Smart yn wallgof gan ei gyfoedion. Mae stori Christopher Smart yn f’atgoffa o bobl eraill a oedd fel ffyliaid i’w cyfnod. Pobl yn siarad flabber dabber.
Paul: pan gyhoeddodd y Newyddion Da mynnodd pobl ei fod yn siarad flabber dabber. Eithr nyni, meddai, pregethu yr ydym Grist wedi ei groeshoelio, yn dramgwydd i’r Iddewon ac yn ffolineb i’r Cenhedloedd ... (1 Corinthiaid 1:23). Flabber dabber? Sylwch, mae Paul yn ychwanegu : ...y mae ffolineb Duw yn ddoethach na doethineb ddynol (1 Corinthiaid 1:25).
Mair Magdalen, Joanna a Mair mam Iago yn dychwelyd o’r bedd gwag i adrodd rhyfeddod ei wacter wrth yr un ar ddeg ac wrth y lleill i gyd (Luc 24:9,10). Dyma ymateb yr apostolion: ... i’w tyb hwy, lol oedd yr hanesion hyn, a gwrthodasant gredu’r gwragedd (Luc 24:11). Flabber dabber? Ai flabber dabber yw ein holl siarad am ryfeddod y Bedd Gwag? Onid yn y flabber dabber hwn mae ein gobaith a’n cymorth i fyw? ... y mae flabber dabber Duw yn ddoethach na doethineb ddynol.
Iesu; meddai rhai mewn ymateb i’w flabber dabber am gariad Duw ar waith: Y mae cythraul ynddo, y mae’n wallgof (Ioan 10:20). Dyma’r Flabber dabber sy’n gysur i ni; sydd, wrth roi bywyd, yn ein galw i rannu’n bywyd ag eraill; wrth ein cryfhau, yn ein galw i ddwyn cysur i eraill, wrth faddau, yn ein galw i faddau; sydd wrth roddi tangnefedd yn ein galw i fod yn weithredwyr heddwch.
Pwy sydd yn siarad flabber dabber heddiw? Pawb sydd ynghanol treialon, yn sôn am obaith; ynghanol casineb yn sôn am gariad; ynghanol erledigaeth yn sôn am gynhaliaeth; ynghanol anobaith, yn sôn am rym yr hen addewidion. Neges yr Eglwys yw bod daioni yn gryfach na drygioni, fod cariad yn gryfach na chasineb, fod goleuni yn gryfach na thywyllwch, fod bywyd yn gryfach na marwolaeth. Flabber dabber? Ie. Flabber dabber! Ond flabber dabber Duw ydyw. Ein braint yw cyhoeddi mewn gair a gweithred fod flabber dabber Duw yn ddoethach na phob doethineb ddynol.
Peidiwn ag anwybyddu flabber dabber Duw! Na foed i ni ei anwybyddu fel gwallgofrwydd; ffynhonnell ddwyfol sydd i hwn: gwallgofrwydd yr Hwn a feddyliodd am y sêr, am ddaear werdd, am Waredwr mewn preseb, am Air mewn cnawd, am obaith ynghrog ar groes, am fywyd anniffoddadwy yn gorwedd mewn bedd. Na anwybyddwn flabber dabber ein Duw.
(OLlE)