Dyma hi wedi cyrraedd. Rhown ddiolch iddi am ddod. Fe fydd gan hon eto, fel pob blwyddyn arall, ei chymeriad unigryw. Gyda Duw, gyda’n gilydd cydiwn yn hyderus yn llaw’r flwyddyn hon. Deisyfwn faddeuant am wendidau a methiannau'r llynedd; trown bob siom yn ymroddiad ar gyfer eleni.
Man cychwyn ein hoedfa deulu heddiw oedd y weddi sy’n gweddu i bawb: F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf . Yn sŵn a swyn y weddi honno, cawsom gyfle i gyd-adrodd ac ystyried geiriau Salmydd:
ARGLWYDD, buost yn gadernid i ni
ym mhob cenhedlaeth.
Cyn geni’r mynyddoedd
a chyn esgor ar y ddaear a’r byd,
o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ti sydd Dduw.
Oherwydd y mae mil o flynyddoedd yn dy olwg fel doe sydd wedi mynd heibio,
ac fe gwyliadwriaeth yn y nos. (Salm 90:1-2,4)
Wedi derbyn adnodau’r oedolion, gofynnodd y Gweinidog os oedd syniad gan rywun beth oedd thema’r oedfa? Daeth sawl cynnig, ond ‘roedd y plant a’r bobl ifanc yn gwybod. Buom ers mis Medi'r llynedd yn dysgu cyfrif! Daethom heddiw i’r rhif ‘5’. Arweiniodd y cwestiwn hwnnw at gyfres o gwestiynau! Dyma’r cyntaf: ‘Sawl 5 sydd yn 25?’ Pawb yn ateb yn hapus ddigon, '5’; ond, mynnai’r Gweinidog nad ‘5’ mor ateb cywir, ond ‘4’. Â phawb yn rhyfeddu o’r newydd at anallu mathemategol Owain Llyr, gofynnwyd yr ail gwestiwn ganddo: ‘Sawl carreg cododd Dafydd o’r afon? Yr ateb? ‘5’! Yna cymerodd (Dafydd) ei ffon yn ei law, dewisodd bum carreg lefn o’r nant a’u rhoi yn y bag bugail oedd ganddo fel poced, a nesaodd at Goliath â’i ffon dafl y ei law (1 Sam 17:40).
Pam dewis bum carreg? Bu un yn ddigon i lorio Goliath! Awgrymodd y Gweinidog, fod Dafydd yn ddigon doeth - er iddo wybod y medrai daflu'n dda - i ystyried y medrai fethu. Er cystal pob ymdrech o’n heidio i hyrwyddo gwaith Crist yn ein plith, rhaid i ninnau hefyd, fel Dafydd, fod yn ddigon doeth i ystyried y posibilrwydd o fethu. Gofalwn, felly i ddewis mwy nag un garreg o’r afon.
Ymlaen at y cwestiwn nesaf: ‘Os dau bysgodyn, sawl torth?’ Gan fod pawb yn gyfarwydd â’r stori, daeth yr ateb o sawl cyfeiriad: ‘5’. A dyma un o’i ddisgyblion, Andreas ... yn dweud wrth Iesu, ‘Y mae bachgen yma a phum torth a dau bysgodyn ganddo, ond beth hynny rhwng cynifer? (Ioan 6:9)
Gan gydio yng nghwestiwn Andreas: ... beth hynny rhwng cynifer? atgoffwyd ni fod Iesu, gyda’r ychydig bach oedd gan y bachgen hwn i gynnig, wedi sicrhau digon o fwyd i bawb. Ychydig sydd gennym ni i roi ar wasanaeth Iesu. Dim ots! Rhown yr ychydig sydd gennym i Iesu, a hynny’n fodlon hyderus gan wybod ganddo’r gallu a’r ewyllys i gyflawni’r anhygoel trwy gyfrwng yr ychydig sydd gennym i gynnig iddo.
‘Sawl 5 sydd yn 25?’ Daeth yr ateb yn gorws: ‘5’. Ie, a nage mynnai Owain Llyr. Ie, pum pump sydd yn 25, ond sawl 5 sydd yn Mathew 25?
Gruff ac Elen oedd yn ein harwain mewn darlleniad a gweddi heddiw. Dewiswyd gan Gruff adnodau addas iawn i droad blwyddyn o Lyfr y Pregethwr (3:1-15) a benthycwyd gan Elen hyfryd eiriau John Roderick Rees (CFf.:87) yn weddi:
I Dduw y dechreuadau
rhown fawl am ddalen lân,
am hyder yn y galon
ac ar y wefus, gân:
awn rhagom i'r anwybod
a'n pwys ar ddwyfol fraich;
rho nerth am flwyddyn arall
i bobun ddwyn ei faich.
Ar sail ein doe a'n hechdoe
y codwn deml ffydd,
yn nosau ein gorffennol
ni fethodd toriad dydd;
a hithau'n ddyfnder gaeaf
disgwyliwn wanwyn Crist
a chlywed llais y durtur
uwch pob wylofain trist.
Boed blwyddyn gymeradwy
yr Arglwydd wrth ein dôr,
dirwyned drwy ein dyddiau
drugaredd hael yr Iôr:
a ni wrth borth y misoedd
yn ffyddiog am a ddaw,
ar drothwy'r daith anesgor
gafaelwn yn ei law.
Wedi galw’r plantos a’r plant ymlaen i’r sedd fawr - cwmni bychan oedd gennym heddiw - derbyniwyd adnodau, a chafodd Owain Llyr glec dda o ‘High five’ gan Jac! Gwahoddwyd pawb, o’r ieuengaf i’r hynaf i ystyried ei llaw. Awgrymodd ein Gweinidog fod y llaw yn ein hatgoffa o bwysigrwydd gweddi. Onid ydym yn gosod dwy law yng nghyd wrth weddïo? Mae’r llaw, hefyd yn ein hatgoffa pwy ddylid gweddïo drostynt.
Y bawd sydd gosaf atom. Felly mae’r bawd yn ein hatgoffa i weddïo’n ofalus dros, ac i ofalu’n weddigar am y bobl sydd gosaf atom.
Y mynegfys yn ail, y bys hwn sydd yn dangos y ffordd. Gweddïwn yma’r bobl sydd yn ein harwain, ein dysgu, a’n cyfarwyddo.
Y bys mwyaf yw’r trydydd; mae’r bys mwyaf yn ein hatgoffa o’r angen i weddïo dros y bobl mewn awdurdod - yn lleol, yn genedlaethol a ledled byd.
Y bys gwanaf ohonynt i gyd sydd nesaf. Rhaid cofio cofio gweddïo dros y gwan yn y byd, ein gwlad a’n dinas.
Nesaf, y bys bach. Nyni yw'r bys bach hwn. Er mor bwysig yw cofio am y NI fawr, rhaid hefyd yw cofio am y FI fach.
Wel, Sawl 5 sydd yn Mathew 25?
5? Nage. 4. Yn Nameg y Deg Geneth (25:1-13) mae pump ohonynt yn ffôl (1), a phump ohonynt yn gall (2). Yn Nameg y Codau Arian mae’r dyn cyfoethog yn rhoi pum cod o arian (3) i’r gwas yn adnod 15. At y pump, enillodd atynt bump arall yn adnod 16 (4). Felly, sawl 5 sydd yn 25? 4. Y Gweinidog oedd yn iawn wedi’r cyfan!
Ein braint heddiw oedd cael croesawu'r Parchedig Dewi Lloyd Lewis i freintiau a chyfrifoldebau aelodaeth o Eglwys Iesu Grist yma yn ein plith.
Liw nos, arweiniwyd ni i Lyfr y Salmau: Salm 90 gan ganolbwyntio ar yr adnod hon: Felly dysg ni i gyfrif ein dyddiau, inni gael calon ddoeth (12). Awgrymodd y Gweinidog mae Iesu yw’r athro Felly dysg ni...; i gyfrif ein dyddiau yw’r WERS; AMCAN y wers honno yw inni gael calon ddoeth.
Iesu yw ein hathro ni. Dod ato fel disgyblion yw’r alwad gyntaf arnom, ac wrth ddod ato, rhaid wrth wyleidd-dra, a meddwl agored, a gonestrwydd, a dyfalbarhad. Ar ddechrau blwyddyn newydd, benthycwn yn weddi, dyhead William Williams, Pantycelyn (1717-91; CFf.:687):
Dysg im, f’Arglwydd, dysg im pa fodd
I ddweud a gwneuthur wrth dy fodd.
Nesaf, y WERS. Diben y wers yw ein dysgu fod gwahaniaeth mawr rhwng cyfrif ein dyddiau a threulio’n hamser. Mae ein hamser ni yn rhy brin i’w wastraffu. Nid amser i dreulio sydd gennym, ond dyddiau i’w cyfrif. Yn olaf, AMCAN y wers: inni gael calon ddoeth. Y galon ddoeth yw honno sydd yn ymagor i’r gwirionedd sydd yn Iesu. Doethineb yw meddwl Crist yn llenwi a llywio ein meddwl ni; ewyllys Crist yn cywiro a grymuso ein hewyllys ni; cariad Crist yn ein meddiannu, ein goleuo a’n sancteiddio.
 ninnau, bellach wrth Fwrdd y Cymundeb, cawsom gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint.
Diolch am fendithion y Sul.
Mae’r Sul nesaf yn llawn fel wy! Edrychwn ymlaen at groesawu Arfon Jones (Gobaith i Gymru/Beibl.net) i’n plith i arwain yr Oedfa Foreol Gynnar am 9:30. Yn yr Oedfa Foreol (10:30) bydd y Gweinidog yn parhau gyda’r gyfres o bregethau: ‘Y flwyddyn 70 ac Efengyl Marc’ (2:13-17), ac yn yr Oedfa Hwyrol (6) ailgydiwn yn y gyfres: ‘Ffydd a’i Phobl - Hebreaid 11’ gan ganolbwyntio ar ffydd Moses a Bithea (Hebreaid 11:24-30). Am 2yp dathlu’r Plygain yn Eglwys Sant Teilo, Sain Ffagan dan arweiniad y Parchedig Ddr R Alun Evans. Rhwng 3 a 4:30yp bydd PIMS yn ymweld â phobl ifanc Christ Church, Parc y Rhath.
Diolchwn i bawb wnaeth gyfrannu mewn unrhyw fodd at y cyfleoedd niferus fu gennym yn ystod yr Adfent i gynorthwyo eraill a chyfrannu at wahanol elusennau. Casglwyd £219 i Gymorth Cristnogol trwy gyfrwng y Goeden Cyfarchion. Yn yr Oedfa Fore Nadolig, â ninnau’n addoli gyda’n brodyr a chwiorydd o Eglwys y Crwys, casglwyd £359 eto, i Gymorth Cristnogol. Yn ychwanegol at y cyfraniadau uchod bydd Cymorth Cristnogol yn medru manteisio ar gynnig y llywodraeth i roi "punt am bunt" dros dymor y Nadolig felly bydd gwerth ein cyfraniadau wedi’u ddyblu! Trosglwyddwyd 65 anrheg i Ganolfan Wallich er mwyn iddynt gael eu dosbarthu ymhlith digartref y ddinas a derbyniwyd llythyr o werthfawrogiad am yr anrhegion oddi wrth y ganolfan. Da nodi mai buan iawn y llanwyd yr hipo llwglyd porffor a fu'n eistedd ar fwrdd y Festri ac o ganlyniad i’r £117 a gasglwyd, mae’r Ysgol Sul wedi sicrhau bod modd ariannu plentyn i fynd i’r ysgol ym Mangladesh ynghyd â sicrhau dau fochyn bach i deulu yn Cambodia o dan gynllun Present Aid, Cymorth Cristnogol. Wedi gosod her i aelodau’r eglwys gefnogi ymdrechion Banc Bwyd Caerdydd trwy gyfrannu tunnell o fwyd yn ystod blwyddyn waith yr eglwys, Medi 2014/Awst 2015, llwyddwyd i gyrraedd y nod bedwar mis yn gynnar ym mis Ebrill. Yng ngoleuni’r galw parhaus a chynyddol dyma benderfynu anelu at gyfrannu ail dunnell o fwyd erbyn mis Rhagfyr eleni. Diolch i haelioni aelodau’r eglwys gwelwyd y blychau casglu bwyd yn y festri yn gyson lawn drwy’r haf a’r hydref a llwyddwyd i daro targed yr ail dunnell yn gyfforddus ar drothwy’r Nadolig. Diolch yn fawr iawn i bawb am eu cefnogaeth i’r ymgyrch! Daeth bron i £400 i law dryw gyfrwng y casgliadau rhydd er budd gwaith Cymdeithas y Beibl a Chyngor yr Ysgolion Sul.
Gan gofio fod angen dirfawr yn parhau, bydd cyfleodd i gyfrannu at wahanol elusennau a chyfeillion drwy gydol 2016. Daw gwybodaeth am ddigwyddiadau penodol i gefnogi’n helusen Pedal Power yn ystod y misoedd a ddaw ond, yn y cyfamser, bydd gennym gyfle i gyfrannu drwy gyfrwng y Casgliad Rhydd yn yr oedfaon wythnos i heddiw (Ionawr 10). Derbynnir dillad mewn cyflwr da ar gyfer boutique Eglwys Llanfair Penrhys. Bydd bocs yn y Festri dros fis Ionawr i dderbyn teganau a dillad plant ail law ond mewn cyflwr da (neu newydd!) ar gyfer plant difreintiedig er mwyn iddynt gael eu cyflwyno i Ganolfannau Plant yn y ddinas. Byddwn yn parhau i gasglu nwyddau tuag at Fanc Bwyd Caerdydd ar ail Sul y mis; er i ni lwyddo i gyrraedd targed yr ail dunnell ar drothwy’r Nadolig mae’r angen yn parhau ac felly bydd y casgliadau misol hefyd yn parhau. Mae Minny Street yn gyfrifol am baratoi te ar gyfer digartref y ddinas yn y Tabernacl, Yr Âis rhyw ddwywaith bob tri mis. Y dyddiadau nesaf y byddwn yn gyfrifol am baratoi a gweini yw 24 Ionawr a 14 Chwefror. Gwerthfawrogir bob cymorth gyda’r gwaith holl bwysig hwn.
Awn rhagom i’r flwyddyn newydd. Gwnaed yr Arglwydd hi yn flwyddyn dda inni yn yr ystyr orau. Gwaith Duw ydym. Gwaith Duw yr ydym yn ei gyflawni. Cariad Duw yw ein cymhelliad. Ewyllys Duw yw ein safon. Gogoniant Duw yw ein nod.