Felly dysg ni i gyfrif ein dyddiau, inni gael calon ddoeth. (Salm 90: 12)
Ysgol profiad: dysgwn oddi wrth ddylanwad pobl eraill arnom, digwyddiadau a’n hymateb ni iddynt a’r profiadau amrywiol a ddaw i’n rhan. Elfen bwysig o ddysgu byw yw canfod ystyr ein bodolaeth, meithrin perthynas agos ac ymddiried yn Nuw a Phobl Duw.
Felly dysg ni i gyfrif ein dyddiau, inni gael calon ddoeth.
Yr athro (Felly dysg ni), y wers (i gyfrif ein dyddiau) a’r amcan (inni gael calon ddoeth).
!esu yw ein hathro. Abl ydyw i’n dysgu am iddo ef ddysgu’r gwersi ei hun. Cymerwch fy iau arnoch a dysgwch gennyf ... (Mathew 11: 29) - nid digon talu gwrogaeth i Grist, rhaid dod yn ddigon agos ato i gymryd ei iau arnom. ... canys addfwyn ydwyf, a gostyngedig o galon. (Mathew 11: 29). Rhyfeddol ei amynedd a’i ddiddordeb ymhob disgybl. Mae gennym athro da sy’n ein deall. Ni chawn gam ganddo; fe’n tywys yn gariadus heb ein gyrru. Athro amyneddgar ydyw, yn fodlon aros nes inni ddysgu ei wersi. Dod at Iesu fel disgyblion yw’r alwad gyntaf arnom; hynny mewn gwyleidd-dra, gyda meddwl agored a gonestrwydd, a dyfalbarhad. Parotach ydym i roi i Iesu na derbyn oddi wrtho! Eisiau rhoi i Iesu oedd Martha. Ofer hynny heb ddawn a pharodrwydd Mair i eistedd yn llonydd a gwrando. Sicrha hyn y cyflwr meddwl angenrheidiol i dderbyn rhodd fawr Iesu: goleuni ei ddeall o Dduw, bywyd a phopeth. Cyll ein crefydd ei gafael a’i grym heb i ni eistedd digon wrth draed Iesu a dysgu ganddo: Dysg im, f’Arglwydd, dysg im pa fodd i ddweud a gwneuthur wrth dy fodd (William Williams, Pantycelyn, 1717-91; C.Ff.: 687)
Y Wers. Rhyfedd gofyn ar i Dduw i’n dysgu i gyfrif ein dyddiau! Onid yw Duw y tu hwnt i’n gofod a’n hamser ni? Mae Duw yn dragwyddol ei natur, ond creaduriaid amser ydym ni. Cysgu 8 awr y dydd; mewn blwyddyn cysgwn am 4 mis. Faint o amser a gymerir i fwyta ... i ymolchi a gwisgo ... i ymdrwsio ac ymbincio? Faint o amser a roddir i’r papurau newydd ... i’r cyfrifiadur a’r teledu? Mewn 70 mlynedd, treulir 3 mlynedd yn dysgu, 8 mlynedd yn mwynhau a 6 mlynedd yn bwyta, 3 mlynedd yn darllen a 24 mlynedd yn cysgu! Cymer addoli am awr bob Sul a gweddi 5 munud, bore a nos, 6 mis o’r 70 mlynedd! Rhaid gwahaniaethu rhwng cyfrif dyddiau a threulio amser. Hanfod y wers yw bod amser yn rhy brin i’w wastraffu. Dim ond wrth ddysgu nad amser i dreulio sydd gennym ond dyddiau i’w cyfrif y deuwn i ddeall hyd yn oed os ydym yn greaduriaid amser ein bod hefyd yn blant tragwyddoldeb. Dim ond wrth ddysgu nad amser i wario sydd gennym, ond dyddiau i’w cyfrif, y cawn fod gyda Duw yn barhaus:
Yn wastad gyda Thi, dymunwn fod fy Nuw,
yn rhodio gyda thi ‘mhob man ac yn dy gwmni’n byw.
(J. D. Burns ,1823-64; cyf. Elfed, 1860-1953; C.Ff. 672)
Rhodd fwyaf bywyd yw bywyd nad yw’n darfod o’i gysegru i Dduw. Life, for most people, simply isn’t (e. e. cummings, 1894-1962) ... Yr wyf fi wedi dod er mwyn i bobl gael bywyd (Ioan 10:10).
Amcan y wers. Pwysig cymhwyso’r wers. Rhaid ei gosod i gyfeiriad daioni a gwasanaeth; rhaid cadw’r nod mewn golwg: inni gael calon ddoeth. Beth yw doethineb? Ofn yr Arglwydd yw dechrau doethineb (Diarhebion 9:10). Duw yw hanfod a ffynhonnell pob doethineb. Mewn perthynas â Duw y mae canfod cyfrinach gwir ddoethineb - perthynas a wnaed yn bosibl trwy ymgorfforiad doethineb Duw yn Iesu Grist: Trwy ei waith ef yr ydych chwi yng Nghrist; yr hwn a wnaed yn ddoethineb i ni oddi wrth Dduw (1 Corinthiaid 1: 30). Adnabod Iesu yw doethineb a chalon ddoeth sy’n ymagor i’r gwirionedd sydd ynddo. Doethineb yw meddwl Crist yn llenwi a llywio ein meddwl ni; ewyllys Crist yn cywiro a grymuso ein hewyllys ni; a chariad Crist yn ein meddiannu, a’n goleuo a’n sancteiddio.
Iesu yw’r Athro, Iesu yw’r Wers, Iesu yw’r Ysgol. Awn ati yn 2016 i gyfrif ein dyddiau a chadw’r nod, Iesu ein Harglwydd, yn glir o’n blaen, i ddwyn ein calon i ddoethineb.