TAITH GERDDED GYNTAF 2016

Heddiw, bu ein taith blwyddyn newydd arferol o Landaf i’r Mochyn Du. Ar ddechrau ein taith safwyd wrth yr Eglwys Gadeiriol ac arweiniwyd ni mewn myfyrdod byr gan y Parchedig R. Alun Evans. Cofiwyd gyda diolch am John Albert Evans a fu farw ychydig cyn y Nadolig ac a sefydlodd y teithiau cerdded sydd wedi dod yn rhan mor ddifyr o’n cymdeithasu fel cyfeillion ac aelodau o Eglwys Minny Street. Milain yw’r gwynt; mlâ’n â’r gwaith (Tudfor) oedd byrdwn neges Alun a chyda atgofion difyr daeth ein taith i ben dros bryd o fwyd.