Beth a roddaf iddo,
llwm a thlawd fy myd?
Pe bawn fugail rhoddwn iddo
orau’r praidd i gyd;
pe bawn un o’r doethion
gwnawn fy rhan yn ddigoll:
ond pa beth a roddaf?
Fy mywyd oll
(Christina Rossetti, 1830-94 cyf. Simon B. Jones, 1894-1964 CFf.:466)
Caspar, Melchior a Balthasar.
Aur, thus a myrr.
Aur i’r brenin.
Thus i Dduw mewn cnawd.
Myrr i’r dioddefydd.
Canolbwynt ein defosiwn heddiw fydd MYRR. Awn rhagom yfory i ystyried THUS. Yn y tri hyn, AUR, THUS a MYRR gwelir Fy mywyd oll.
Ar ôl hyn, gofynnodd Joseff o Arimathea ganiatâd gan Pilat i gymryd corff Iesu i lawr. Yr oedd Joseff yn ddisgybl cudd, gan fod ofn yr Iddewon arno. Rhoddodd Pilat ganiatâd, ac felly aeth Joseff i gymryd y corff i lawr. Aeth Nicodemus hefyd, y dyn oedd wedi dod at Iesu y tro cyntaf liw nos, a daeth ef â thua chan pwys o fyrr ac aloes yn gymysg (Ioan 19:38,39).
Yn lled gyffredinol, mae MYRR yn cynrychioli colled, poen a hiraeth.
Felly, i ddechrau ymdawelwn, ymlonyddwn gan ganolbwyntio ar bresenoldeb Duw...
Ystyriwn FYRR ein byw a’n profiad:
Sioc...
Siom...
Unigrwydd...
Gwacter...
Amheuaeth...
Ansicrwydd...
Anobaith...
Teulu, cyfeillion, cymdogion...
Pob cysur a chymorth i fyw...
Ymorffwys...
Ymglywed...
Ymroi...
Ffydd...
Gobaith...
Cariad...
Boed Duw yn agos atom, a’i gwmni yn ddiddanwch.
... a moes dy law i mi’r eiddilaf un,
ac arwain fi i mewn i’th fyd dy hun.
(George Rees, 1873-1950; CFf.:541)
(OLlE)