Ar ôl hyn, amlygodd Iesu ei hun unwaith eto i’w ddisgyblion, ar lan Môr Tiberias...‘Dewch,’ meddai Iesu wrthynt, cymerwch frecwast.’...a chymerodd y bara a’i roi iddynt, a’r pysgod yr un modd. (Ioan 21:1,12,13)
Llun: Itay Bav-Lev
Tiberias...
Ie, bychan y cwmni ond mawr y fendith. Cawsom, y pump ohonom, egwyl fach a’r ddechrau’r dydd i bwyllo, ymdawelu ac i ogwyddo ein meddwl at Dduw.
Ers dechrau mis Medi, buom yn dawel ystyried gweddïau’r Beibl. Yn y ‘Tiberias’ cyntaf (14/9) gweddi Abraham (Genesis 18:23-33) oedd testun ein sylw; gweddi Hanna (1 Samuel 1:9-18, 24-28) yn yr ail gyfarfod (12/10); gweddi Solomon (1 Brenhinoedd 3:3-15; 16/11). Ym mis Rhagfyr, echel ein myfyrdod oedd Gweddi Heseceia (2 Brenhinoedd 19:8-19). Heddiw, gweddi Jona.
Dwy ochr yr un dudalen - dyna Lyfr Jona yn ei grynswth. Gobaith ac anobaith; y gorau a’r gwaethaf o grefydd. Dwy ochr yr un dudalen. Ynom, fel yn Jona mae’r naill a’r llall - anobaith a gobaith, y gwaethaf a’r gorau - yn annatod.
Mae darnau o Lyfr Jona’n darllen fel Llyfr y Salmau. Yn wir, gŵr uniongred ei gredo a’i weddi yw Jona, y cenhadwr a ddanfonodd Duw i Ninefe, prifddinas Asyria, gelyn Israel. Mae naws cyffes y Salmydd ar ddatganiadau Jona. Er enghraifft:
Hebrëwr wyf fi, ac yr wyf yn ofni’r ARGLWYDD, Duw’r nefoedd, a wnaeth y môr a’r sychdir (Jona 1:9).
Ond aberthaf i ti â chân o ddiolch. Talaf yr hyn a addunedais; i’r ARGLWYDD y perthyn gwaredu (Jona 2:9).
Gwyddwn dy fod yn Dduw graslon a thrugarog, araf i ddigio, mawr o dosturi ac yn edifarhau am ddrwg (Jona 4:2).
Ond er mor uniongred ei gredo, gwrthododd Jona ildio i ewyllys Duw a phregethu Gair yr ARGLWYDD ymhlith trigolion Ninefe.
Yng Nghymru heddiw, mae’n haws o lawer o lawer bod yn Geidwaid y Ffydd yn ein capeli na bod yn Gyhoeddwyr Efengyl Duw - dyma ddwy ochr ein tudalen ni. Cynnal a chadw’r ffydd; mentro a chyhoeddi’r ffydd. Ofer y naill heb y llall.
 ninnau'r bore hwn, wedi myfyrio uwchben gweddi Jona, edrychwn ymlaen at gyfle i drafod gweddi Simeon (Luc 2:22-38) yn ‘Capernaum’ nos Lun 25/1.