Beth a roddaf iddo,
llwm a thlawd fy myd?
Pe bawn fugail rhoddwn iddo
orau’r praidd i gyd;
pe bawn un o’r doethion
gwnawn fy rhan yn ddigoll:
ond pa beth a roddaf?
Fy mywyd oll.
(Christina Rossetti, 1830-94 cyf. Simon B. Jones, 1894-1964 CFf.:466)
Caspar, Melchior a Balthasar.
Aur, thus a myrr.
Aur i’r brenin.
Thus i Dduw mewn cnawd.
Myrr i’r dioddefydd.
Canolbwynt ein defosiwn heddiw fydd AUR. Awn rhagom yfory i ystyried MYRR, a thrennydd THUS. Yn y tri hyn, gwelir Fy mywyd oll.
Yn lled gyffredinol, mae AUR yn cynrychioli trysor, llwyddiant a bendith.
Felly, ymdawelwn, ymlonyddwn gan ganolbwyntio ar bresenoldeb Duw...
Rhown ddiolch am AUR ein byw a’n profiad:
Hamdden a hwyl...
Gwaith i’w wneud a nerth i’w gyflawni...
Teulu, cyfeillion, cymdogion...
Cwmni diddan; oriau tawel wrthym ein hunain...
Pob harddwch; cerddoriaeth, celfyddyd, cymdeithas, ysbrydoliaeth...
Y gorffennol a’i wersi...
Y presennol a’i gyfle...
Y dyfodol a’i her...
Ffydd...
Gobaith...
Cariad...
Am yr holl fendithion hyn, mawrygwn ein Duw.
O! na foed tafod dan y rhod
yn ddistaw am dy waith;
minnau fynegaf hyd fy medd
dy holl ddaioni maith.
(David Charles, 1803-80; CFf.:64)
(OLlE)