Isaac Newton: ffisegydd, mathemategydd, dyfeisiwr ac athronydd naturiol.
Ionawr 4, 1643, ganwyd Isaac Newton yn Woolsthorpe-by-Colsterworth. Yn 1661, ymunodd â Choleg y Drindod Caergrawnt; ymddiddorodd mewn darllen gwaith Galileo, Copernicws a Kepler. Bu i’r Coleg gau yn sgil y Pla Du a bu Newton yn gweithio gartref ar ddamcaniaethau a theoremau calcwlws, opteg a disgyrchiant. Cyhoeddodd ei Philosophiae Naturalis Principia Mathematica enwog yn 1687. Bu farw yn 1727, a chladdwyd ei weddillion yn Abaty Westminster.
Deddf Mudiant Gyntaf Newton: Mae gwrthrych sydd yn llonydd yn aros yn llonydd, oni bai ei fod yn cael ei effeithio gan rym.
Mae’r eglwys yn 2016 yn llonydd. Yn nhrefn ewyllys Duw mae’r ymlonyddu hwn wedi bod yn foddion i agor ein llygaid i weld pwysigrwydd eglwys sy’n symud. Buom lonydd mor hir, fel ein bod ni’n gorfod pwyso o’r newydd ar ein Harglwydd Iesu Grist, yr unig rym sydd ddigonol i’n symud ni.
Buom, ers yn hir - rhy hir - yn gobeithio y gallem, trwy gynllunio gofalus, a phwyllgora cyson, gymhwyso’r Efengyl i’r oes, ac o’r herwydd symud yr eglwys. Aros yn llonydd a wnaeth yr eglwys! Bellach, gwelsom mai cymhwyso’r oes i’r Efengyl yw hanfod ein gweinidogaeth. Nid creu Crist modern mor nod, ond ildio i’r Crist Oesol, bythol gyfoes. Wrth drafod heddiw bywyd eglwys, ac wrth gynllunio i’r dyfodol, rhaid cadw golwg ar y Crist sydd yn berchen arni, gydag awdurdod ysgubol a digymrodedd.
Mae eglwys sydd yn llonydd yn aros yn llonydd, oni bai ei bod yn cael ei effeithio gan rym Cariad.
Ail Ddeddf Mudiant Newton: Mae gwrthrych sydd yn symud yn parhau i symud, oni bai ei fod yn cael ei effeithio gan rym.
Mae eglwys sydd yn symud yn parhau i symud, oni bai ei fod yn cael ei effeithio gan rym.
Grym Cariad Crist a symuda eglwys i symud. Beth ddaw a hi i stop? Ai ni yw’r grym mewnol sy’n rhwystro eglwys sy’n symud rhag parhau i symud? Llenwir ein byd crefyddol gan ddysglau anweledig a phob un ddysgl am ei chadw’n wastad! Onid dyhead Cristnogion Cymru yn 2016 yw bod yn gyfforddus ac yn llonydd? O'r dechrau, nodwedd eglwys sy’n symud yw ei bod hi’n creu ffurfiau a bathu geiriau newydd i fynegi ei argyhoeddiad. O'r dechrau, bu'n rhaid brwydro â’r grym oedd yn rhwystro’r eglwys rhag symud. Ym mhob achos, dailiwyd ati i ddal ati -‘roedd y gwaith o symud yr eglwys yn bwysicach na chadw'r dysglau anweledig yn wastad!
Mae eglwys sydd yn symud yn parhau i symud, oni bai ei fod yn cael ei effeithio gan rym.
Trydedd Ddeddf Mudiant Newton: Pan mae corff yn gwthio grym tuag at gorff arall, mae’r corff arall yn gwthio grym hafal yn ôl.
Ystyriwch Fôr Galilea a’r Môr Marw. Derbyn Môr Galilea ddŵr yr Iorddonen, ond nid yw’n cadw’r dyfroedd rhedegog ynddo’i hun. Mae pob diferyn a llif iddo yn diferu ohono; mae’r derbyn yn hafal a’r rhoi. Mae Môr Galilea yn derbyn a rhoddi. Pan mae corff yn gwthio grym tuag at gorff arall, mae’r corff arall yn gwthio grym hafal yn ôl. Mor wahanol y Môr Marw: pob diferyn a derbyn y môr hwnnw, fe’i ceidw iddo’i hun. Er bod corff yn gwthio grym tuag ato, nid ydw’n gwthio grym hafal yn ôl.
Pan mae 'dweud' yn gwthio grym tuag at 'wneud', rhaid i’r 'gwneud' gwthio grym hafal yn ôl. Hynny, neu mae’r holl siarad yn ofer.
Pan mae ffydd yn gwthio grym tuag at obaith, rhaid i obaith wthio grym hafal yn ôl. Hynny, neu mae ffydd yn pylu.
Pan mae credu yn gwthio grym tuag at weithredu, rhaid i weithred wthio grym hafal yn ôl neu fe beidia’r eglwys a bod yn eglwys mewn gwirionedd.
I grynhoi felly:
- Mae eglwys sydd yn llonydd yn aros yn llonydd, oni bai ei bod yn cael ei effeithio gan rym Cariad.
- Mae eglwys sydd yn symud yn parhau i symud, oni bai ei fod yn cael ei effeithio gan rym y dysglau gwastad.
- Pan mae credu yn gwthio grym tuag at weithredu, rhaid i weithred wthio grym hafal yn ôl neu fe beidia’r eglwys a bod yn eglwys mewn gwirionedd.
(OLlE)