RHWD

image.jpg

Rhwd. Pan ddaw y gair ‘Rhwd’ o flaen fy llygaid, neu i’m clyw, cyfyd ymdeimlad o chwithdod ynof – onid oes rywbeth yn chwithig am rywbeth yn rhydu? Ac yn rhyfedd iawn, rhyw chwithdod felly sydd gan y beirdd wrth sôn am unrhyw beth a rhwd arno. Mae ‘na eithriadau, er enghraifft:

Segurdod yw clod y cledd,

A rhwd yw ei anrhydedd.

Dylem ymfalchïo yn segurdod rhydlyd y cledd, meddai Emrys (1813-1873) wrthym, ond gyda pethau eraill, y defnydd a wnaed o rywbeth pan fo’n loyw a glân sydd yn cyffroi awen y beirdd o weld rhwd yn cydio ynddo. Dyma, er enghraifft, englyn am yr hen efail - rhyw atgof am hyfrydwch y prysurdeb gynt:

Y gêr tan rwd seguryd – a’r taw hir

Lle bu taro diwyd;

A wêl fwth ac efail fud

A wêl fedd hen gelfyddyd.

Tybed a ellid dweud bod ein syniad o Dduw, ein deall ohono, ein perthynas ag Ef weithiau’n rhydu a hynny oherwydd diffyg defnydd, symud a chynydd? Gêr ein ffydd, gobaith a chariad tan rwd seguryd? I aralleirio Emrys, nid yw segurdod, niwlogrwydd meddwl a diffyg ffresni'n glod i’n ffydd; nid yw rhwd yn anrhydedd i Dduw. Sancteiddier dy enw meddai Iesu yn y Weddi Fawr. Sancteiddier dy enw: rhaid ar dro i bawb ohonom grafu’r rhwd i ffwrdd o’n perthynas â Duw ac â'i bobl Ef.

Yn weddi heddiw, benthycwn dyhead Ann Griffiths (1776-1805)

O! am fywyd o sancteiddio

Sanctaidd enw pur fy Nuw,

Ac ymostwng i’w ewyllys

A’i lywodraeth tra fwy’ byw...Amen

(OLlE)

THOMAS À BECKET

Will no-one rid me

of this troublesome priest?

Mae’r ddrama Murder in the Cathedral (1935) gan T.S.Eliot (1888-1965) yn trafod merthyrdod Thomas à Becket (1118-29/12/1170), archesgob Caergaint. Mae’r stori datblygu hyd nes i Becket cael ei lusgo i mewn i ddiogelwch y gadeirlan gan dri offeiriad i’w achub rhag milwyr y brenin. Mae’r offeiriaid yn cloi’r drws yn dynn, ond gyda hyder anorchfygol y ffydd, mae Becket yn mynnu:

Unbar the doors! Throw open the doors!

I will not have the house of prayer, the church of Christ,

The sanctuary, turned into a fortress ...

The church shall be open, even to our enemies...

We are not here to triumph by fighting, by stratagem, or by resistance, not to fight with beasts as men. We have fought the beast and have conquered. We have only to conquer now, by suffering.

This is the easier victory.

Now is the triumph of the Cross, now open the door! I command it. OPEN THE DOOR!

Mae Becket yn wynebu ei ddiwedd gan ymddiried nid mewn grym ond mewn ffyddlondeb - ffyddlondeb i’r hwn a orchfygodd pob drwg, a hynny nid trwy nerth bôn braich ond, yn a thrwy gariad.

(OLlE)