Bore Sul am 10:30, Oedfa Foreol ein Gŵyl Flynyddol: Oedfa lawn fel wy! Arweinir y defosiwn gan Mari Fflur; pawb - o’r ieuengaf i’r hynaf - â’i adnod. ‘Dwy law Cariad’ fydd testun y sgwrs plant, a chawn droi at y Wal Weddi, a thystio i fedydd Erin.
Testun homili’r Gweinidog yw Actau 20:1-12. Gwelir Paul ar ei ffordd i Facedonia. Wedi cyrraedd Troas, cynhelir Oedfa ar ddydd yr Arglwydd. Cawn gipolwg ar un o’r oedfaon Cristnogol cynharaf a gofnodir yn Actau. Oedfa hwyrol yw hon. Dyma’r unig amser cyfaddas i’r eglwys gynnar gynnal Oedfa ar ddiwrnod gwaith. Onid amgylchiadau’r addolwyr, a’u cyfleustra ddylasai benderfynu rhif oedfaon, a’u hamseriad, yn hytrach nag arfer oes arall wahanol? Oni ddaeth yn amser i’r eglwysi roi sylw newydd i’r ystyriaethau hyn?
Nid Eutychus oedd y cyntaf na’r olaf i gysgu mewn Oedfa! Nid Paul oedd yr olaf i draethu’n hir! Ceir Oedfa fwy, a cheir weithiau Oedfa bwl, farwaidd. O gofio am yr Oedfaon dwy neu dair awr, byrhaodd yr Oedfa gryn dipyn. A ddaeth cyfnod oedfaon-mini? Er yn gwestiynau pwysig, myn ein Gweinidog fod gwaeth beth na chysgu mewn Oedfa, sef cysgu mewn Gwasanaeth! Gwyliwch, meddai Iesu, gwyliwch, a byddwch effro (Marc 13:33). Am hynny, meddai Paul wrth bobl Iesu yn Thesalonica (1 Thesaloniaid 5:6), rhaid inni beidio cysgu ... ond bod yn effro: yn effro i geisio Iesu, yn effro i’w bresenoldeb, yn barotach felly i ymateb i’w alwadau, ac yn fwy byw i bosibiliadau’r Gair.
Bydd yr Ysgol Sul yn dechrau ar ymdrin â Ffrwythau’r Ysbryd. Erbyn diwedd y wers fore Sul, bydd gan bob plentyn llinyn o lain lliwgar i fynd adref gyda hwy, â phob glain yn cynrychioli un o’r naw ‘ffrwyth’: ... dyma’r ffrwyth mae’r Ysbryd Glân yn ei dyfu yn ein bywydau ni: cariad, llawenydd, heddwch dwfn, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder a hunanreolaeth (Galatiaid 5:22,23 beibl.net).
Liw nos (18:00), edrychwn ymlaen at gael derbyn o genadwri pregethwr gwadd ein Gŵyl Flynyddol - y Parchedig Ddr Alun Tudur. Gweinidog cadarn yn Eglwys Ebeneser, Caerdydd ers 1995. Llongyfarchwn ef yn wresog ar ddathlu ohono’n ddiweddar iawn 30 mlynedd ers ei ordeinio’n weinidog i’r Arglwydd Iesu Grist. Gwiw gennym ei groesawu atom. ‘Rydym yn gwybod y cawn ganddo bregethu meddylgar a phregeth werthfawr. Gweddïwn am wenau Duw ar yr oedfa. Hyfrydwch hefyd fydd cael cwmni ein brodyr a chwiorydd o eglwysi’r ddinas nos Sul. Hyfryd yw pob cyfle i gyd-addoli a chyd-dystio. Duw a fo’n blaid i ni gyd yn ein gweinidogaeth.
Nos Fawrth (20/9; 19:00): ‘Genesis’. Awr fach hamddenol yn y festri: defosiwn syml yn arwain at fymryn o waith llaw syml a buddiol. Testun y ‘Genesis ‘ cyntaf oll fydd Salm 23.
Bore Gwener (23/9; 11:00): ‘Llynyddwch’. Paned wrth ymyl llyn llonydd y Rhath. Yn Terra Nova cawn gyfle i drafod, fesul pennod, llyfr Rowan Williams: Choose Life (Bloomsbury, 2013). Mae copïau ar gael gan y Gweinidog. Echel ein trafodaeth fore Gwener fydd The Kingdom of the Simple (t.3-13).
Philip, un o ddisgyblion cyntaf Iesu. Dyn ymarferol iawn oedd Philip - ni ddylid anghofio parodrwydd hwn i wahodd: Tyrd i weld (Ioan 1:46). ‘Genesis’? ‘Lllynyddwch’? Heb fod yn siŵr? Un anogaeth sydd, yn syml Tyrd i weld.
Cynhadledd Flynyddol Cristnogaeth 21 (24/9; 10:00-15:30. Canolfan Morlan, Aberystwyth). Bydd ein Gweinidog, gyda’r Parchedig Judith Morris a Bethan Wyn Jones yn ysgogi trafodaeth ar y thema: Eisiau Tyfu - Ofn Newid.