Perthyn i bob iaith geiriau na ellid yn iawn eu cyfieithu i iaith arall. Ymdrin ag ambell un o’r geiriau rheini mae’r gyfres hon o fyfyrdodau. Daw testun ein sylw heddiw o’r Siapanaeg: Tsundoku. Golyga’n fras gadael llyfr a brynwyd gennych, heb ei ddarllen.
Mae’r Beibl yn dioddef cam tebyg gennym! Mi ddois ar draws llyfr yn y llyfrgell yn ddiweddar: How to Talk About Books You Haven’t Read (2007; Bloomsbury Publishing) gan Pierre Bayard (gan. 1954) Llyfr ydyw i’r honedig-ddiwylliedig. O gael eich hunain mewn cwmni o bobl sydd yn trafod llyfr, mae Bayard yn awgrymu bod yn rhaid i chi osod y llyfr hwnnw mewn un o bedwar categori, ac o hynny wedyn, fe allwch fesur beth sydd orau i chi gyfrannu i’r sgwrs heb amlygu eich anwybodaeth! Dyma’r categorïau - UB: book un-known to me; SB: Book I have skimmed; HB: Book I have heard about; a FB: Book I have forgotten. Cystal cydnabod, mae ysmaliwr SB ydwyf wrth sôn heddiw am How to Talk About Books You Haven’t Read!
Maddeuwch y gwamalu, dyma sydd bwysig - mae’r Beibl bellach i drwch o bobl Cymru yn FB. I rai HB, ac i’r mwyafrif llethol o blant a phobl ifanc yn llyfr UB. Pam? Am mae llyfr SB ydyw i’r union bobl hynny a ddylai fod yn ei ddarllen o ddifri, a’i drafod yn gall a chyson. Llwyddasom i droi llyfr sydd yn gwbl berthnasol i bopeth yn gwbl amherthnasol i ddim. Magu chwilfrydedd Beiblaidd yn ein heglwysi yw’r gwaith pwysicaf y gelwir arnom i’w cyflawni fel gweinidogion ac eglwysi. Dylai pobl ffydd gymryd at astudiaeth Feiblaidd fel cath at laeth! Ond yn hytrach, yr ydym yn yngan y gair ‘Astudiaeth’, fel petai ein ceg yn llawn halen.
Na, nid yw’r Beibl wedi achub neb erioed, ac ydi, mae’r Gair yn fwy na’r geiriau, ond na ato Duw i ni anghofio bod y Gair yn y geiriau, a gwir fawl i’r Gair yw darllen a thrafod y geiriau.
F'Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.
(OLlE)