Ferched Jerwsalem,
mae fy nghroen yn ddu ond dw i’n hardd -
yn dywyll fel pebyll duon pobl Cedar,
a hardd fel llenni palas Solomon.
Peidiwch syllu arna i am fy mod yn ddu
a’r haul wedi rhoi croen tywyll i mi …
(Caniad Solomon 1:5 a 6a beibl.net)
Sôn sydd yma am losg-haul. ‘Roedd, ac mae cyflwr felly’n gyffredin ddigon mewn gwlad boeth. Mae’r gariadferch yn edifar am ei chyflwr: Peidiwch syllu arna i am fy mod yn ddu a’r haul wedi rhoi croen tywyll i mi …; ond eto’n gwybod mai hardd ydyw: mae fy nghroen yn ddu ond dw i’n hardd Mae’r brenin yn ei charu wedi’r cyfan: … y mae dy gariad y well na gwin … Tyn fi ar dy ôl, gad inni redeg gyda’n gilydd; cymer fi i’th ystafell, O frenin. (Caniad Solomon 1:2b a 4a BCN). Rhywle rhwng yr ymdeimlad o’r angen am edifeirwch a’r ymwybyddiaeth o gariad Duw tuag atom mae gwyrth maddeuant yn digwydd.
Benthycwn brofiad Ann Griffiths (1776-1805) yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:
Nac edryched neb i gloffi
Arnaf, am fy mod yn ddu;
Haul, a gwres ei belyderau,
Yn tywynnu’n danbaid arnaf sy:
Mae a’m cuddia
Cysgod llenni Solomon.
(OLlE)