Pam, ARGLWYDD, y sefi draw, ac ymguddio yn amser cyfyngder (10:1 BCN)?
Daw Job i feddwl wrth ystyried Salm 10. Mynnodd Job cael atebion gan Dduw; mynnodd esboniad am ei ddolur ... ni ataliaf fy ngeiriau: llefaraf yng nghyfyngder fy ysbryd, cwynaf yn chwerwder fy enaid (Job 7: 11 BCN).
Oni chawsom ein dysgu ar yr aelwyd, yn yr Ysgol Sul a’r capel i siarad yn barchus â, ac am Dduw. Mae’n anodd gennym glywed y Salmydd yn siarad fel hyn â Duw. Onid Manners maketh Christian? Ond yn y Beibl, ceir sawl enghraifft - gormod o lawer i’w hanwybyddu - o sgyrsiau digon hallt rhwng pobl â’u Duw.
Gwyddom am Job; ac fe gofiwch efallai am Abraham yn erfyn dros Sodom: A wyt yn wir am ddifa’r cyfiawn gyda’r drygionus? Os ceir hanner cant o rai cyfiawn yn y ddinas, a wyt yn wir am ei dinistrio a pheidio ag arbed y lle er mwyn yr hanner cant cyfiawn sydd yno? Sylwch: Na foed iti wneud y fath beth, a lladd y cyfiawn gyda’r drygionus, nes bod y cyfiawn yr un fath a’r drygionus. Na ato Duw! Oni wna Barnwr yr holl ddaear farn (Genesis 18: 23-26 BCN)?
Mae Moses, ar ôl rhialtwch y Llo Aur, yn ymbil ar Dduw: ... ARGLWYDD, pam y mae dy lid yn ennyn yn erbyn dy bobl a ddygaist allan o wlad yr Aifft a nerth mawr ac a llaw gadarn? Pam y caiff yr Eifftiaid ddweud, ‘A malais yr aeth â hwy allan, er mwyn eu lladd yn y mynyddoedd a’u difa oddi ar wyneb y ddaear’? Tro oddi wrth dy lid angerddol, a bydd edifar am iti fwriadu drwg i’th bobl (Exodus 32: 11&12 BCN).
Dyma Jeremeia: ... gosodaf fy achos o’th flaen: Pam y llwydda ffordd y drygionus, ac y ffynna pob twyllwr (12: 1 BCN)?
Mae’r Salmydd hwn yn ymuno gyda Job, Abraham, Moses a Jeremeia - pobl nad oeddent yn sensora eu hiaith nac yn sterileiddio eu hemosiynau wrth siarad â Duw. Gan ddilyn eu hesiampl, mae’r Salmydd yn mynnu cael mynegi ei deimladau, un ac oll: Cyfod ARGLWYDD; O Dduw, cod dy law; nac anghofia’r anghenus. Pam y mae’r drygionus yn dy ddirmygu, O Dduw, yn tybio ynddo’i hun nad wyt yn galw i gyfrif (10:12&13 BCN)?
Weithiau, mae hawl gennym godi llais ar ein Duw. Mae gennym hawl i fynegi ein dolur i gyd, ein siom, ein rhwystredigaeth, ein hofn, ein diffyg ffydd. Peidiwn felly ag atal ein cwyn.
Cymorth ni i gredu, Arglwydd, hyd yn oed pan na fedrwn ddeall; ac yng nghanol holl droeon dyrys ein byw cadarnha ein ffydd mai Tydi sy’n trefnu’r daith. Amen.