GLAIN

'Munud i Feddwl' wythnosol ein Gweinidog

'Old Woman and Rosary' 1895/96 - Paul Cézanne (1839-1906)

Glain: gair bach unsill. Uchod gwelir portread Paul Cézanne (1839-1906) o hen wraig yn symud gleiniau yn ei llinyn paderau, neu rosari. Y gadwyn honno sy’n cynnwys fel rheol ryw 55 o leiniau, a gweddi fer ar gyfer pob glain, neu paderyn.

Gan bwyso ar waith ymchwil y geiriadurwr R. J. Thomas, digwydd yr enghraifft gynharaf o’r gair glain yn y 12fed ganrif yn Llyfr Llandaf, pan gyfeirir at y llyn hwnnw, heb fod yn bell o Lantrisant, o’r enw Llyn y gleiniau. Tybed os mai llyn ac iddo waelod o gerrig mân ydoedd? Lle prydferth. Ys gwn i a ydyw yno o hyd?

Mewn cywydd gan un o gyfoeswyr Owain Glyndŵr, gelwir ef yn lain: Megis Owain glain y Glyn. Person gwerthfawr - anwylyn cenedl.

Ond nid personau a llefydd yn unig a elwid glain. Yn Llyfr yr Ancr (1346) sonnir am yr Ysbryd Glân fel hyn: Yr Ysbryd Glân glain anwylaf, hynny yw trysor anwylaf. Clywir yn y disgrifiad hwn o’r Ysbryd Glân ryw nodyn a aeth ar goll ym mywyd yr Eglwys heddiw. Yn lle’r agosrwydd cynnes a deimlid gynt rhyngom ni a’r Un yn Dri, a’r Tri yn Un daeth pellter, dryswch ac oerni.

Duw cariad yw (1 Ioan 4:8): nid peth deddfol, caled, oer yw cariad! Mae cariad yn brydferth! Wrth i gariad Duw symud ynom a thrwom, bydd prydferthwch y cariad yn llifo ynom ac ohonom. Ofer ein siarad am y Duw sydd gariad, os nad yw prydferthwch y cariad hwnnw yn amlwg ynom, a rhyngom. Boed i ni fod yn brydferth ein cam, fel Olwen gynt. Boed i’n byw a bod arddangos Cariad Duw yn ei brydferthwch amrwd, naturiol, ac nid yn ei goeg degwch crefyddol.

Wrth hel meddyliau heddiw am y gair glain, buom fel hen wraig Cézanne yn rhifo’r gleiniau rhwng ein bysedd, ond da yw gorffen gyda geiriau glain y Salmydd:

Bydded prydferthwch yr ARGLWYDD ein Duw arnom ni:

llwydda waith ein dwylo inni,

llwydda waith ein dwylo.

(Salm 90:17)

 

(OLlE)