… y mae dy gariad y well na gwin …
Tyn fi ar dy ôl, gad inni redeg gyda’n gilydd;
cymer fi i’th ystafell, O frenin.
(Caniad Solomon 1:2b a 4a BCN)
Gwêl y gariadferch ei chariad fel brenin; dyma’r gymhariaeth gyntaf, ac ni ellid rhagori arni. Er mai hanfod yr Efengyl yw’r gred yng nghariad Duw atom, disgwylir ymateb gennym i’r cariad hwnnw. Dyna a gawn ar ddechrau Caniad Solomon: y gariadferch yn ymateb i’w chariad, ei brenin. Derbynnir hyn yn lled gyffredinol fel alegori o ymateb yr Eglwys i Grist.
… y mae dy gariad y well na gwin …
Yng nghyfnod ysgrifennu Caniad Solomon anghenraid oedd gwin; ‘roedd yn rhan o luniaeth bob dydd, ac nid yn ddiod achlysurol. ‘Roedd mor anhepgor i’w fywyd â bara. Defnyddid gwin yng ngwledd y cysegr: Cymer (arian y Degwm) gyda thi, a dos i’r man y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi ei ddewis, a phrynu beth bynnag a fynni: gwartheg, defaid, gwin, diod feddwl, neu unrhyw beth yr wyt yn ei ddymuno; a bwyta ef yno’n llawen gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw, ti a’th deulu (Deuteronomium 14:25.26). Rhoddid gwin yn ddiod-offrwm yn ol y Gyfraith … a chydag ef fwyd offrwm p bumed ran o effa a beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn offrwm drwy dân, yn arogl peraidd i’r ARGLWYDD, a hefyd ddiod-offrwm o chwarter hin o win (Lefiticus 23:13).
Benthycwn brofiad William Williams, Pantycelyn (1717-91) yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:
O! llefara, addfwyn Iesu,
Mae dy eiriau fel y gwin.
(OLlE)