Dros y Sul, ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri y Parchedig Ddoctor Geraint Tudur; Ysgrifennydd Cyffredinol - diwyd a chadarn ei arweiniad - Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Gwyddom y cawn ganddo bregethu meddylgar a phregethau buddiol a bendithlawn. Gweddïwn am wenau Duw ar Oedfaon y Sul. Yn ôl ein harfer, bydd yr Oedfa Foreol am 10:30. Cynhelir yr Ysgol Sul, a bydd ein plant a phlantos yn parhau i ymdrin â Ffrwythau’r Ysbryd, gan ganolbwyntio ar y cyntaf ohonynt - cariad. Sŵn y plant fu’r sŵn amlycaf yn ein plith yn ystod y mis aeth heibio. Y sŵn hyfrytaf a fu erioed! Parhawn felly i barchu gorchymyn Iesu, Portha fy ŵyn, a’n llafur yn ddiarbed i hyfforddi ein plant a phobl ifanc. Bydd yr Oedfa Hwyrol am 18:00. Boed bendith ar y Sul.
PIMS nos Lun (26/9; 19:00-20:30 yn y Festri): bydd ein pobl ifanc, fel plantos a phlant yr Ysgol Sul yn dysgu am arwyddocâd arbennig Cariad i’r Cristion (Galatiaid 5:22). Boed bendith ar y bobl ifanc hyn sydd â chymaint i’w gynnig: doniau, syniadau ffres, ynni a brwdfrydedd. Boed i Dduw fendithio ein llafur gyda’r ifanc. Na fydded inni arbed dim yn ein hymgais i greu o Minny Street cartref ysbrydol iddynt.
BETHANIA nos Fawrth (27/9; 19:30-20:30 yn y Festri). Cynhelir y cyntaf o’r cyfarfodydd buddiol hyn y Festri, gan drefnu pa aelwyd fydd yn lletya cyfarfod nesa’ yn y gyfres. Y thema y tro hwn yw Cyfeillion Paul. Bydd y cyfarfod agoriadol yn cyflwyno’r thema’n fras, cyn symud rhagom i ystyried ‘Paul a’i gyd-Apostolion’ ymhen pythefnos (11/10).