Bore Sul am 10:30 Oedfa i’r Teulu - balwn, fflam, dŵr a ... bedydd. Bedydd trilliaid! Hyd y gwyddom, y trilliaid cyntaf erioed i’w bedyddio yn eglwys Minny Street.
Cyflwynir ‘Yr Oedfa’ BBC Radio Cymru ddydd Sul (5:30 a 11:30) gan Connor a’i dad. Y thema fydd emyn David Charles (1762-1834):
O! Iesu mawr, rho d’anian bur
i eiddil gwan mewn anial dir,
i’w nerthu drwy’r holl rwystrau sy
ar ddyrys daith i’r Ganaan fry.
(686; Caneuon Ffydd)
Prentisiwyd David Charles mewn ffatri nyddu rhaffau yng Nghaerfyrddin, ac mae’r emyn tri phennill hwn fel darn o raff, byr iawn yw’r rhaff, ond hynod o gryf; hen yw’r rhaff, ond tyn - ddigon tyn i ddal ein pwysau, digon tyn i’n tynnu’n ôl, a’n tynnu ymlaen.
Oedfa Gymundeb fydd liw nos (18:00). Bydd ein cyfnod o weddi a chyflwyniad y Gweinidog i’r Cymundeb yn echelu a’r hanes Philip a Nathanael (Ioan 1:43-51). Trwy dystiolaeth Ioan y clywodd y disgyblion cyntaf yr alwad i ganlyn Iesu. A thrwy eu tystiolaeth hwy, yn eu tro yr ychwanegwyd at nifer y disgyblion. Y mae’r gwir ddisgybl yn troi ar unwaith, fel y gwnaeth Philip, yn genhadwr. A pha le gwell i ddechrau cenhadu nag ymhlith ein ceraint a’r cydnabod ein hunain?
Bydd y bregeth ar ffurf stori ymhlyg mewn stori: wrth adrodd stori ymweliad Paul, Silas a Timotheus â Thesalonica adroddir hefyd y stori fwyaf un: stori bywyd, marw ac atgyfodiad Iesu Grist. Dyma’r testun o Lythyr Cyntaf Paul at y Thesaloniaid (5:16a BCN): Llawenhewch bob amser. Mae Cariad a Llawenydd yn cerdded llaw-yn-llaw. Ffynhonnell llawenydd y Cristion yw gweithredoedd mawr, hynod fawr y Duw a'm carodd, cofiodd, ceisiodd, cafodd, cadwodd, cododd. Neu’n fyr Iesu Grist yw ein llawenydd ni. Nid oes unrhyw ffynhonnell arall i lawenydd go iawn. Dyna pam y gall Paul annog ffyddloniaid yr Achos yn Thesalonica i lawenhau bob amser. Gan fod llawenydd wedi’i angori yng Nghrist, nid yw’r llawenydd y Cristion ar drugaredd yr amgylchiadau - llawenydd ydyw sy’n ymorffwys yn y sicrwydd fod cariad Duw’n drech na phob helbul a helynt.
Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth edrych a threfnu i’r dyfodol. Boed iddynt a’r Gweinidog amlygu’r cyfleodd sydd o’n blaen, ein hannog i gydio ynddynt, gan ymroi gyda’n gilydd i osod ein doniau at wasanaeth yr Achos, gan gymryd cyfrifoldeb o fewn yr eglwys, a chofio amdani mewn gweddi.
Bydd ein Gweinidog yn cyfrannu i ‘Munud i Feddwl’ ar Radio Cymru ar Foreau Mercher ym mis Medi sef y 7fed, 14eg, 21ain a’r 28ain.
Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd: Nos Iau am 19:30 yn Y Tabernacl, Yr Ais, Dr Siwan Seaman yn annerch ar y testun "Moeseg, Meddygaeth a gofal lliniarol". Gweddïwn am wenau Duw ar waith a chenhadaeth Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd.