... dyma’r ffrwyth mae’r Ysbryd Glân yn ei dyfu yn ein bywydau ni: cariad, llawenydd, heddwch dwfn, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder a hunanreolaeth (Galatiaid 5:22,23 beibl.net).
Edrychwn ymlaen at yr Oedfa Foreol Gynnar (11/9 am 9:30 yn y Festri). Ein Gweinidog fydd yn arwain, a thema’r Oedfa fydd ‘Rhoi a Derbyn Ffrwythau’r Ysbryd’.
Y rhinweddau a enwir gan Paul yn ei lythyr at bobl Iesu yn Galatia fydd echel gwaith yr Ysgol Sul a PIMS y tymor hwn. Gweddïwn am fendith ein Duw, awdur pob rhinwedd a ffynhonnell pob daioni, fel y gall yr ifanc yn ein plith dyfu mewn ffydd a chynyddu ymhob rhinwedd da.
Sylwer fod Paul yn gosod cariad yn gyntaf oll; sylwer hefyd fod ei bwyslais ar ddechrau’r bennod ar ryddid: ... i ryddid y rhyddhaodd Crist ni (Galatiaid 5:1). Yn wir, trwy’r holl lythyr rhybuddia’r Galatiaid rhag syrthio i afael caethiwed crefydd deddf. Yn hyn oll, ‘roedd Paul yn dilyn Iesu. ‘Roedd yntau’n gosod cariad yn uwch na phopeth, ac yn dymuno o’r herwydd, i ryddhau pobl oddi wrth ormes crefydd gyfyng a chrefydda lem: ... os yw’r mab yn eich rhyddhau chwi, byddwch yn rhydd mewn gwirionedd (Ioan 8:36). Boed i ni efelychu ein Harglwydd Iesu, gan dystio i’w gariad ac estyn ei ryddid i’n cymdogaeth a’n byd.
Bydd ein Gweinidog cyn dechrau’r Oedfa Foreol yn cyflwyno cynlluniau’r flwyddyn newydd hon o wasanaeth: ein helusennau eleni (Tŷ Hafan a Toilet Twinning); Bethania - cyfle i drin a thrafod y Gair; Genesis - cyfle i fod yn greadigol; Llynyddwch - cyfle i ymdawelu.
Ym mis Medi 2015, buom yn trafod emyn o eiddo David Jones (1805-68; CFf:76):
Mae Duw yn llond pob lle,
presennol ymhob man ...
Mis Hydref: dyhead David Charles (1762-1834; CFf:686):
O! Iesu mawr, rho d’anian bur
i eiddil gwan mewn anial dir ...
Mis Tachwedd: J. G. Moelwyn Hughes (1866-1944; CFf:691)
Fy Nhad o’r nef, O! gwrando ‘nghri:
un o’th eiddilaf blant wyf fi ...
Saith mis yn ddiweddarach yr emyn nesaf! Canolbwynt ein sylw ym mis Gorffennaf oedd emyn George Rees (1873-1950; CFf:541).
O Fab y Dyn, Eneiniog Duw, fy Mrawd a’m Ceidwad cry’ ...
Mae’r gyfres yn parhau yn yr Oedfa Foreol (10:30) pan fyddwn yn ymdrin ag emyn Ann Griffiths:
Arogli’n beraidd mae fy nardus
wrth wledda ar y cariad rhad ...
Caniad Solomon 1:12; y cariad rhad sydd yn ddrud iawn iawn. Sêl! ... sêl yn tanio’n erbyn pechod. Ni feddyliodd Iesu erioed am i’w Eglwys fod yn amddiffynnol. Nid amddiffyn ein hunain rhag pethau drwg y natur ddynol mo gwaith pobl ffydd, ond ymosod, gorchfygu. Yfed, ie, yfwch yn helaeth, fy rhai annwyl (Caniad Solomon 5:1 WM) a hynny er mwyn setlo/ar wrthrych mawr ei Berson Ef.
Liw nos (18:00), Theoffilws, syr (Luc 1:1a beibl.net fydd testun ein sylw. Ychydig a wyddom am yr ardderchocaf Theoffilus. Bwriad Luc wrth gyflwyno’i efengyl i hwn oedd dangos iddo mor ddilys oedd y pethau y dysgwyd ef ynddynt eisoes. Mae Theoffilus felly’n gwybod rhywbeth am Iesu ac am y ffydd, ond mae arno angen mwy o wybodaeth fanwl am gynnwys y ffordd newydd hon at Dduw. Mae Luc, yn ei efengyl, ac yn ei ail draethawd (Actau 1:1 WM) yn cymryd yn ganiataol fod Theoffilus yn gyfarwydd â’r Hen Destament. Onid oedd hwn hefyd yn ŵr defosiynol, ac yn ofni Duw (Actau 10:2a WM)? Hwyrach, yn wir, mai Theoffilus a ofynnodd i Luc sgrifennu’i ddau draethawd ar ei gyfer ef a’i gyfeillion. Os do, mawr iawn ein dyled ni iddo. Tri phen sydd i bregeth y gweinidog: Theoffilus: Caru Duw; Caru’r Gwirionedd; Caru Iesu.
PIMS nos Lun (12/9; 19:00-20:30 yn y Festri): Cariad (Galatiaid 5:22); yr elusen Toilet Twinning; croesawu, ffarwelio, Pitsa a Oh, the places you’ll go! gan Dr Seuss (1904-91).
Koinônia amser cinio dydd Mercher (14/9): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.
Babimini bore Gwener (16/9; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.
Dydd Sadwrn (17/9), priodas Elen ac Etienne Martin. ... ar ddydd eu priodas pura’u serch â’th gariad dwyfol, drud. (Tudor Davies; CFf:635).