Perthyn i bob iaith geiriau na ellid yn llawn a llwyr eu cyfieithu i iaith arall. Mae’r gyfres hon o fyfyrdodau yn ymdrin ag ambell un o’r geiriau rheini. Daw testun ein sylw heddiw o’r Almaeneg: Waldeinsamkeit. Golyga’n fras yr ymdeimlad o fod ar ben dy hun mewn coedwig; unigedd llonydd nad sydd o reidrwydd yn fygythiol.
Awn i’r afael ag arwyddocâd Waldeinsamkeit trwy gyfrwng y gerdd hon gan Robert Frost (1874-1963): Stopping by Woods on a Snowy Evening (1923):
Whose woods these are I think I know.
His house is in the village though;
He will not see me stopping here
To watch his woods fill up with snow.
My little horse must think it queer
To stop without a farmhouse near
Between the woods and frozen lake
The darkest evening of the year.
He gives his harness bells a shake
To ask if there is some mistake.
The only other sound’s the sweep
Of easy winds and downy flake.
The woods are lovely dark and deep.
But I have promises to keep,
And miles to go before I sleep,
And miles to go before I sleep.
Mae’r gerdd yn fyr. Mae testun y gerdd yn gyffredin ddigon: noson dywyll, coed ag eira ar lawr. Wrth ddarllen y gerdd, gwelwn nad byr mohoni ond cynnil, ac mae rhywbeth mawr yn cael ei ddweud. Sylwch ar deitl y gerdd: Stopping by Woods on a Snowy Evening. Mae’r bardd ar ei ffordd i rywle. Arhosodd i wylio’r woods fill up with snow. O ble ddaeth y bardd, ac i ble mae e’n mynd? Pam aros fan hyn?
Mae llonyddwch Waldeinsamkeit yn pwyso’n drwm ar y gerdd; eira’n gorwedd yn drwch, y byd wedi fferru i gyd; the darkest evening of the year yw hi. Coedwig wag. Noson dawel, clustfeiniwch am sibrwd easy winds and downy flake. Mae’r bardd ar ei ben ei hun, ac yn falch o gael bod felly: Waldeinsamkeit. Arhosodd fan hyn, ymhell o afael pawb a phopeth. Mae’r eira’n wedi troi'r goedwig yn Gaer Gwydion - dyma natur yn brydferth a swynol.
The woods are lovely, dark and deep. Mae’r bardd yn dal munud neu ddwy o lonyddwch yng nghanol ei brysurdeb: Waldeinsamkeit. Gellid deall a gwerthfawrogi Stopping by Woods on a Snowy Evening gan fod prydferthwch byd a rhyfeddod bywyd wedi cydio ym mhawb ohonom rywbryd, rywsut, gan beri i ni oedi ar ein taith, ac anghofio - am ennyd - yr holl bethau sydd yn gwasgu ar ein hamser.
Mae Frost yn gorffen cerdd arall o’i eiddo The Lesson for Today (1942) gyda’r geiriau: I would have written of me on my stone: I had a lover’s quarrel with the world.
Mae’r cymal a lover’s quarrel with the world, yn dweud rhywbeth wrthym am ein hymateb fel Cristnogion i’r byd. Mae Stopping by Woods on a Snowy Evening yn ddisgrifiad hyfryd o brydferthwch byd, a’r munudau euraid hynny lle cawn ymdeimlo â hyfrydwch bywyd. Ond y tu hwnt i brydferthwch byd a hyfrydwch bywyd, mae ‘na fywyd a byd tra gwahanol: hagrwch tlodi a thrais; budreddi rhyfel a gormes. Fel Cristnogion, mae ein ffydd yn mynnu ein bod ni’n mynd i’r afael â’r pethau hyll hyn. Mae’r Cristion, fel ei Dduw yn caru’r byd; ond mae gan y Cristion a lover’s quarrel with the world. Er rhyfeddod a phrydferthwch y goedwig a’r eira a swcwr llonyddwch Waldeinsamkeit ... meddai’r bardd: I have promises to keep. Mae’r bardd wedi blino ... miles to go before I sleep. Mae Cristnogion weithiau’n blino ar y gwaith o newid y byd hwn, ond newid y byd sydd raid. Gwaith ffydd, mewn cariad yw newid y byd er gwell, felly daliwn ati felly, daliwn ati i ddal ati. (We) have promises to keep,/And miles to go before (we) sleep,/ And miles to go before (we) sleep.
F'Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.