Caniad Solomon - cân y caniadau. O holl lyfrau’r Hen Destament nid oes un yn anos i’w ddehongli na hwn. Mae’r gwahanol ddehongliadau ohono’n frith, ond prin yw’r pregethu ohono. Ysbrydolodd lenorion, beirdd ac emynwyr ymhob oes. Stori garu ydyw.
Cusana fi â chusanau dy wefusau,
oherwydd y mae dy gariad yn well na gwin (1:2 BCN).
Mae’r stori garu yn dechrau, yn naturiol, gyda’r amlygiad naturiol o gariad: cusan.
Cusaned fi â chusanau ei fin (1:2 WM).
‘Roedd yn arferiad ym mhlith y Cristnogion cynnar i gyfarch ei gilydd gyda chusan cariad. Terfyna Pedr ei lythyr cyntaf gyda’r anogaeth: Cyfarchwch eich gilydd â chusan cariad (1 Pedr 5:14a BCN) a Paul yr eglwys yn Thesalonica'r un modd: Cyfarchwch y brodyr i gyd â chusan sanctaidd (1 Thesalonica 5:26 BCN)
Y cusan tristaf yn y Testament Newydd yw cusan Jwdas - defnyddiwyd yr amlygiad naturiol o gariad yn gyfrwng brad.
Cusan: cariad, cymdeithas … brad. Boed i Dduw ein cynorthwyo i gadw cyfryngau ein cariad pob amser yn bur ac yn ddihalog.
Benthycwn brofiad Ann Griffiths (1776-1805) yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:
Yng nghymdeithas y dirgelwch
Datguddiedig yn ei glwy’,
Cusanu’r Mab i dragwyddoldeb
Heb golli ‘ngolwg arno mwy.
(OLlE)