Gesyd ein siarad am ‘flwyddyn waith’ a galwadau’r wythnos hon, neu’r dydd heddiw mewn cyd-destun llesol a bendithlawn gan y Salmydd gyda’i bwyslais ar bob dydd o’m bywyd (Salm 23:6).
Wrth ddewis yr ARGLWYDD yn fugail ei fywyd, gwyddai’r Salmydd nad oedd ond daioni a thrugaredd i ddilyn holl ddyddiau fy mywyd.
Mynnai Robert Beynon (1881-1953) yn ei esboniad gwerthfawr ar y Salmau:
"Gair gwan yw ‘canlyn’ i ddal ystyr y Salmydd; ymlid neu erlid oedd yn ei feddwl ef. Gwelai ddaioni a thrugaredd neu garedigrwydd yn ei ymlid fel dau angel gwarcheidiol a ofnai iddo fyned o’u golwg. Glynant wrtho heb flino ar eu gwaith na throi’n ôl byth".
Cynhaliaeth beunydd beunos y crediniwr yw rhoi ei holl fywyd i’r Hwn sydd yn gyfan gwbl, gwbl gyfan y tu hwnt iddo, ac eto sydd yn ei garu’n llwyr a llawn.
Diolchwn i Ti, O! Dad, nad wyt yn unig gyda ni nawr, ond o’n blaen ni yfory, fel y byddi drennydd a thradwy. Amen.
(OLlE)