Buddiol yw’r gred fod gweddi yn gynneddf naturiol mewn person. O gredu hyn cedwir ni rhag gwaethaf amheuaeth a digalondid pan gawn anhawster gyda gweddi yn ein profiad personol.
Dyma brofiad y Salmydd:
Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael,
ac yn cadw draw rhag fy ngwaredu ac
oddi wrth eiriau fy ngriddfan?
O fy Nuw, gwaeddaf arnat liw dydd,
ond nid wyt yn ateb,
a’r nos, ond ni chaf lonyddwch.
Eto, yw wyt ti, y Sanctaidd, wedi dy
orseddu
yn foliant i Israel.
Ynot ti yr oedd ein tadau’n ymddiried,
yn ymddiried a thithau’n eu gwaredu.
Arnat ti yr oeddwn yn gweiddi ac
achubwyd hwy,
ynot ti yr oeddent yn ymddiried ac ni
chywilyddiwyd hwy.
(Salm 22:1-5 BCN)
Gwelwch y drafferth driphlyg a gafodd y Salmydd. Ni all gredu fod Duw yn real; nid yw ei weddïau yn gyfrwng esmwythâd iddo yn ei anawsterau; ac er dyfalbarhau ohono mewn gweddi ni ddaw cymorth na chysur.
Ond y mae’r Salmydd yn cofio profiad y tadau:
Ynot ti yr oedd ein tadau’n ymddiried,
yn ymddiried a thithau’n eu gwaredu.
Gwêl y Salmydd fod profiad y ‘tadau’ ymhob oes yn dwyn tystiolaeth i allu gweddi. Nid oes ganddo le i ddigalonni yn wyneb profiad yr oesau. Daw i weld mai ynddo ef mae’r drafferth ac nid mewn gweddi, ac o gofio hyn daw ei ffydd yn ôl, ac yn niwedd y Salm tyr allan i ganu yn fuddugoliaethus:
Fe gyhoeddaf dy enw i’m brodyr,
a’th foli yng nghanol y gynulleidfa:
"Molwch ef, chwi sy’n ofni’r
ARGLWYDD;
rhowch anrhydedd iddo, holl feibion Jacob;
ofnwch ef, holl feibion Israel.
(Salm 22:22,23 BCN)
Unig Ffynhonnell heddwch a chyfiawnder, gwna ni’n un cymundeb mawr â dy bobl ym mhob oes a chyfnod a roesant eu hymddiriedaeth ynot ac ni chywilyddiwyd hwynt. Nid oherwydd ein haeddiant, ond yn ôl dy drugaredd dirion, gwrando ni yn ein gweddïau. Amen.
(OLlE)