SALM

Salm 53

Dywed yr ynfyd yn ei galon, "Nid oes Duw." (Salm 53:1).

Gwelir yma’r credadun yn cyhuddo’r anghredadun o ynfydrwydd - ffolineb. Golygfa wahanol a welir yn ein dyddiau ni. Gwelir heddiw, yr anghredadun yn cyhuddo’r credadun o’r ffolineb eithaf. O’r ddwy, rhaid i’r credadun ddewis yr olaf. Nid yn ei ddawn ddifenwi y gorwedd cryfder y credadun ond yn ei barodrwydd i gael ei ddifenwi er mwyn ei Dduw.

Yn ôl pryddest Cynan (1895-1970), cyhuddwyd y cenhadwr John Roberts (1853-1949) o’r ffolineb eithaf pan benderfynodd fynd yn genhadwr dros Iesu i Tsieina.

Ffŵl, ffŵl i’th gladdu dy hun

Yn China ddyddiau d’oes,

A thaflu gyrfa aur i ffwrdd

I sôn am Waed y Groes.

Erys her yng ngeiriau Halford Luccock (1885-1961): The Christian religion never strikes its most compelling notes, never gets into the treble clef, until it frankly admits the charge that it is tinged with irrationality.

CYTGAN

Pwy yw hon sy’n dod i fyny o’r anialwch,

yn pwyso ar ei chariad?

Deffroais di dan y pren afalau,

lle bu dy fam mewn gwewyr gyda thi,

lle bu’r un a esgorodd arnat mewn gwewyr.

Gosod ni fel sêl ar dy galon,

fel sêl ar dy fraich;

oherwydd y mae cariad mor gryf â marwolaeth,

a nwyd mor greulon â’r bedd;

y mae’n llosgi fell ffaglau tanllyd

fel fflam angerddol.

(Caniad Solomon 8:5-7 BCNad)

Canys cariad sydd gryf fel angau: cytunai’r esbonwyr i gyd mai dyma uchafbwynt Caniad Solomon. Nid hardd a da yn unig mo cariad, ond cryf hefyd - mor gryf â marwolaeth ei hun. Onid cryfach? Tân ysol ydyw, a wrthwyneba ac a ddeil yn erbyn pob ymgais i’w ddiffodd. Nid rhywbeth sentimental ydyw; gall wynebu, a goresgyn unrhyw a phob peth.

Benthycwn brofiad William Williams (1717-91), yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:

Anfeidrol felys yw dy hedd,

a chryf dy gariad fel y bedd.

Amen

 

SALM

Salm 84

Cafodd hyd yn oed aderyn y to gartref,

a’r wennol nyth iddi ei hun,

lle mae’n magu ei chywion, wrth dy allorau du,

O! Arglwydd y Lluoedd, fy Mrenin a’m Duw.

Gwyn eu byd y rhai sy’n trigo yn dy dŷ,

yn canu mawl i ti’n wastadol.

(Salm 84:3,4)

Daw’r gwenoliaid i Eglwys Llanfihangel Rhos-y-corn bob haf. Adeiladant eu nythod yng nghyntedd yr eglwys hynafol mewn pryd i’r noswyl o weddi a gynhelir cyn y Dyrchafael bob blwyddyn. Mae’r ffaith bod yr eglwys yn olau yng nghanol y nos yn peri syndod i’r adar. Maent yn hedfan yn ôl ac ymlaen trwy’r drws a rhwng y bwâu am y ddwy awr gyntaf, ond o’r diwedd fe ddeuant yn gyfarwydd â’r canhwyllau gan fynd yn ôl i’r nythod i ymlonyddu.

Nid annhebyg i ymateb y gwenoliaid i’r goleuni yw ein hymdrechion ninnau wrth geisio ymdawelu mewn gweddi o flaen Duw. Ar y dechrau fe â ein meddyliau ar grwydr. Hedfanant i bob cyfeiriad fel adar bach gwyllt. Ond ar ôl i’r munudau fynd heibio maent yn blino ar yr ymgais hon i ddianc rhag y goleuni. Deuant yn ôl at Dduw a nythant ynddo yn dawel a diolchgar. Canfyddant eu bod yn ddiogel gyda’u Harglwydd.

(OLlE)

DYRCHAFAEL EIN HARGLWYDD

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

Gwelir ar ambell ddrws caeedig yr arwydd: Do Not Disturb. ‘Peidiwch ag Ymyrryd’: mae ynom dueddiad fel pobl ffydd i osod y fath orchymyn wrth fwlyn drws ein calon. At ddrws clo ein calon fe ddaw allwedd y Dyrchafael.

Cyn y Dyrchafael mae presenoldeb Crist wedi ei gyfyngu i un lle ac i gyfnod penodol o amser. Ar ôl y Dyrchafael mae ei bresenoldeb yn britho pob lle a phob cyfnod. Dichon mai yno mai'r drafferth. Onid yw’n haws ymdopi â Christ sydd yn gyfyngedig i un lle ac i un cyfnod hanesyddol? Mae gennym i gyd ein delweddau ohono, delweddau a grëwyd (ac a garcharwyd) gan ein magwraeth a’n meddylfryd ein hunain. Gwnawn Grist ar ein llun a’n delw.

Ond nid ein heiddo ni mo Christ; eiddo Crist ydym ni. Golyga hyn nad oes gennym fonopoli ar ei bresenoldeb nac ar ei fendith. Mae’r Dyrchafael yn amlygu hyn o ffaith. Cofiwn eiriau Crist i’w ddisgyblion: ...chwithau arhoswch yn y ddinas nes eich gwisgo chwi oddi uchod â nerth. (Luc 24:49b) Yn y chwithau arhoswch hwnnw fe’n rhybuddir na allwn ni reoli symudiadau’r Ysbryd Glân. Onid dyna’r ymyrraeth â’n byw a’n bod, ein crefydd a chrefydda a ofnwn gymaint? Yn sgil y Dyrchafael nid oes yr un tamaid o’r ddaear hon, na’r un tamaid lleiaf ohonom yn rhy anghysbell i brofi gwefr a her y Crist atgyfodedig a dyrchafedig.

(Actau 1:1-11; Luc 24:44-53)