Edrychwn ymlaen at y Sulgwyn. Echel ein Hoedfa Deulu bore Sul (10:30) fydd Actau 2:1: Ar ddydd cyflawni cyfnod y Pentecost yr oeddent oll ynghyd yn yr un lle. Trwy gyfrwng gair, gweithred, darlun a rhuban ystyriwn arwyddocâd y cymal: yr oeddent oll ynghyd. Yn, a thrwy’r Ysbryd Glân cawn ein tywys i undod â Duw yng Nghrist, a thrwy Crist â’n gilydd. Ym mywyd a chenhadaeth yr eglwys, dim ond hyn sydd bwysig: Byddwch yn gytûn ymhlith eich gilydd (Rhufeiniad 12: 16a). Croesawir ymwelwyr o Fadagascar, ac mae’n fwriad gennym anfon gair o gyfarchiad i’n brodyr a chwiorydd yn Eglwys y Tronavato ym Madagascar.
Wrth y bwrdd, hyfrydwch gennym, y Sul hwn eto fydd cael derbyn aelodau newydd i’n plith. Hefyd, cawn gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint.
Er nad yw plant yn cymuno yn eglwys Minny Street, mae’n fwriad gennym fod y plant a’r plantos yn dysgu beth yw arwyddocâd y ddefod hon. I wneud hynny, rhaid iddynt ddeall beth sydd yn digwydd, ac o’r herwydd symleiddiwyd yr eirfa ac addaswyd y delweddau’r mymryn lleiaf i gynnwys, addysgu a pharatoi’r ifanc yn ein plith.
Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi'r oedfa.
(‘Dewch i’r Parti!’. Ein Gweinidog fydd yn arwain Oedfa BBC Radio Cymru a ddarlledir bore a phrynhawn dydd Sul.)
Gan ei fod bellach wedi gorffen y gyfres o homilïau a myfyrdodau yn seiliedig ar fywyd a phrofiad y Seintiau Cymreig, mae cyfle i Owain ail-gydio yn y gyfres pregethau ‘Pobl y Testament Newydd’. Yn Oedfa Hwyrol (18:00) y Sulgwyn, Simon fodd testun ein sylw, Simon o Samaria, Simon y Swynwr (Actau 8:9-25). Pa neges sydd gan hwn ar ein cyfer tybed? Nid gallu i’w drin yn ôl mympwy dyn yw’r Ysbryd Glân, ond awdurdod y mae’n rhaid ufuddhau iddo.
PIMS nos Lun (5/6; 19:00-20:30 yn y Festri): Addfwynder (Galatiaid 5:22).
Bydd ein Hymddiriedolwyr yn cwrdd nos Fercher. Gofynnwn am fendith Duw ar ei gwaith.
Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd: Yr Athro John Gwynfor Jones (500 mlwyddiant y Diwygiad Protestannaidd a Martin Luther) 19:30 yn Eglwys Canol y Ddinas (URC), Windsor Place. Gweddïwn am wenau Duw ar waith a chenhadaeth Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd.