Tua 1563, ganwyd bachgen o’r enw John Penri yn fferm Cefn-brith, ym mhlwyf Llangamarch, Sir Frycheiniog. Heddiw, nodir Dydd John Penri - nodir ei farw ym mis Mai 1593, ond nodir mwy o lawer na hynny, nodir cenedlgarwch John Penri. Deallodd John Penri mae rhodd oddi wrth Dduw yw’r genedl Gymraeg. Deallodd nad maneg yw’r iaith Gymraeg, ond llaw, a dim ond a’r llaw honno y gellid cydio’n iawn yng nghyfoeth yr Efengyl. Mynnodd yr hawl i bregethu i’w bobl yn y Gymraeg, iddynt gael deall, ac o ddeall, derbyn yr Efengyl. Nodir heddiw hefyd ei radicaliaeth, radicaliaeth a aflonyddodd ar segurdod crefydda a chrefyddwyr ei gyfnod. Nodir hyn heddiw, gan gyhoeddi fod cenedlgarwch a radicaliaeth Gristnogol yn fyw o hyd, a bod eu parhad fel realiti yn ein Cymru ninnau yn llwyr ddibynnol ar y gwerth a rhoddwn arnynt.
O gydio yn y ddolen isod, ceir cyfle i wrando ar Hywel Gwynfryn yn cyfweld John Penri.