Yng nghanol dy adolygu, prin fod amser gennyt i ddarllen unrhyw beth ond dy nodiadau a’th werslyfrau; ond gall y Llyfr fod yn gymorth wrth fynd i’r afael â’r llyfrau; gall y Gair helpu gyda’r holl eiriau sydd angen i ti ddeall, dehongli a chofio. Mae ambell adnod yn adnodd adolygu!
Dyma weddi fach i’th gynnal trwy’r arholiadau:
O! Dduw Dad, dyro gymorth i mi wrth baratoi i’r arholiadau hyn.
Rho i mi, os gweli’n dda o’th ddoethineb:
Doethineb yr ARGLWYDD osododd sylfeini’r ddaear; a’i ddeall e wnaeth drefnu’r bydysawd. (Diarhebion 3:19)
Pan mae’r gwaith yn drwm, a dal ati i ddal ati yn anodd,
Os gweli’n dda, rho i mi ddalifyndrwydd:
Mae’r rhai sy’n dal ati yn wyneb treialon yn cael eu bendithio gan Dduw. (Iago 1:12)
Arholiadau; fe ddônt i ben,
Daw diwedd i’r adolygu,
Rho i mi, os gweli’n dda hunanddisgyblaeth:
Dydy disgyblaeth byth yn bleserus ar y pryd (mae’n boenus!) - ond nes ymlaen dyn ni’n gweld ei fod yn beth da. (Hebreaid 12:11)
Yng nghanol yr holl boeni,
Fi’n poeni,
Anwyliaid yn poeni amdanaf,
Os gweli’n dda, rho i mi, ac i bawb sydd yn annwyl gennyf ymddiriedaeth:
Y mae gennyf gryfder at bob gofyn trwy yr hwn sydd yn fy nerthu i. (Philipiaid 4:13)
Bendithia fi, nawr a phob amser â sicrwydd o’th fendith:
Plîs bendithia fi...Cynnal fi! Cadw fi’n saff. (1 Cronicl 4:10)
Clyw a derbyn fy ngweddi a’m gweddïau. Amen.