Dros y Sul, ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Parchedig Andrew Lenny (Aberystwyth). Gwyddom y cawn ganddo bregethu meddylgar a phregethau buddiol a bendithlawn. Gweddïwn am wenau Duw ar Oedfaon y Sul. Yn ôl ein harfer, bydd yr Oedfa Foreol am 10:30. Cynhelir yr Ysgol Sul, a bydd ein plant a phlantos yn parhau i ymdrin â Ffrwythau’r Ysbryd, gan ganolbwyntio y tro hwn ar Ffyddlondeb. Parhawn i barchu gorchymyn Iesu, Portha fy ŵyn, a’n llafur yn ddiarbed i hyfforddi ein plant a phobl ifanc. Bydd yr Oedfa Hwyrol am 18:00. Boed bendith ar y Sul.
Dymunwn bob hwyl a bendith i bawb a fydd yn cyfrannu i lwyddiant Eisteddfod lawen yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái, boed wrth gystadlu neu berfformio, beirniadu, sylwebu neu stiwardio.