CYTGAN

Pwy yw hon sy’n ymddangos fel y wawr, yn brydferth fel y lloer, yn ddisglair fel yr haul, yn urddasol fel llu banerog?

(Caniad Solomon 6:10 BCNad)

Gŵyr yr Eglwys am ryfel a rhyfela. Gyda William Williams (1717-91), gall hithau ganu:

Yn y rhyfel mi arhosaf,

Yn y rhyfel mae fy lle ...

Peth dymunol fyddai peidio gorfod rhyfela, ond ni ellir gwneud hynny. Erys her fawr George MacLeod (1895-1991): I am recovering the claim that Jesus was not crucified in a cathedral between two candles but on a cross between two thieves, on the town garbage heap ... the kind of place where cynics talk smut and thieves curses and soldiers gamble. Because that is where he died and what he died about, that is where churchmen should be and what churchmen should be about.

Benthycwn brofiad Ann Griffiths (1776-1805) yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:

O! na bai fy mhen yn ddyfroedd

Fel yr wylwn yn ddi-drai

Am fod Seion, lu banerog,

Yng ngwres y dydd yn llwfrhau ...

Amen

SALM

Dywed yr ynfyd yn ei galon,

"Nid oes Duw."

(Salm 14:1 BCNad)

Beth yw ystyr adnod gyntaf y salm hon?

A ydym i’w hesbonio fel condemniad llwyr ar bawb sy’n gwadu bodolaeth Duw?

Na, nid dyna fwriad y Salmydd. Nid anghrediniaeth sy’n poeni’r Salmydd, oherwydd yn ei gyfnod ef nid oedd y fath beth yn bod. ‘Roedd pawb yn Israel yn credu ym modolaeth Duw. Yn hytrach, protestio y mae’r Salmydd yn erbyn y rhai hynny sy’n dweud nad yw Duw o unrhyw bwys ac nad oes a wnelo ddim â’u bywyd beunyddiol hwy. Y mae un fersiwn Saesneg yn dangos hyn yn eglur:

Fools say to themselves,

"God doesn't matter."

Honiad cyfoedion y Salmydd oedd, ‘I bob pwrpas ymarferol gellir anwybyddu Duw!’. Gwêl y bardd effaith hyn oll o’i gwmpas ym mhob man: ... nid oes un a wna ddaioni ... y mae pawb ar gyfeiliorn (Salm 14:1b a 3a). Onid dyna’r gwirionedd am ein cyfnod ninnau hefyd - am yr un rheswm?

Er bod y rhan fwyaf o’r salm yn feirniadol, y mae’n gorffen mewn cywair hollol wahanol. Dyhead, nid condemniad, yw’r gair olaf: O! na ddôi gwaredigaeth i Israel o Seion! (Salm 14:7a). Y mae’r Salmydd yn gweddïo dros ei bobl ac yn sicrhau ei ddarllenwyr, ym mhob oes a chyfnod, y gall yr ARGLWYDD Dduw arwain yr ynfyd o dywyllwch i oleuni, o anobaith a dychryn i lwyddiant a llawenydd.

(OLlE)

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

Edrychwn ymlaen at y Sul nesaf; Sul llawn, ac amrywiol ei fendithion: Bethan a Hefin Jones fydd yn arwain yr Oedfa Foreol Gynnar (14/5 am 9:30 yn y Festri). Wythnos Cymorth Cristnogol (Mai 14-21) fydd echel yr Oedfa. Boed bendith.

Bydd brecwast bach a nwyddau Masnach Deg yn y Festri rhwng y ddwy Oedfa Foreol a bydd cyfle i gyfrannau nwyddau tuag at Fanc Bwyd Caerdydd yn ystod y dydd.

Bywyd a phrofiad y Saint Cymreig yw testun ein sylw eleni trwy gydol y 50 diwrnod rhwng Sul y Pasg a'r Pentecost. Trwy gyfrwng homilïau’r Sul a myfyrdodau wythnosol yn y daflen cyhoeddiadau, yr ydym ymhell ar ein ffordd i’r 50! Erbyn diwedd yr Oedfa Foreol (10:30) byddwn wedi dysgu am - a dysgu gan - 35 o’r saint hyn.

Yn yr Oedfa Foreol bydd ein Gweinidog, mewn cyfres o fyfyrdodau byrion yn sôn am y saint Cynllo, Pŷr, Cyngar, Gofan a Gwenfrewi.

Ein braint nos Sul (18:00) fydd ymuno yng Ngŵyl bregethu Eglwys y Crwys. Pregethir gan y Parchedig Athro John Tudno Williams. (Ni fydd Oedfa Hwyrol ym Minny Street). Gweddïwn am wenau Duw ar Oedfaon y Sul.

Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth iddynt edrych a threfnu i ddiwedd y flwyddyn waith hon.

Nos Fawrth (16/5; 19:00): ‘Genesis’. Awr fach hamddenol yn y festri: defosiwn syml yn arwain at fymryn o waith llaw syml a buddiol. Testun ‘Genesis ‘ y tro hwn fydd y Pentecost.

Babimini bore Gwener (19/5; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin.

 

MESUR

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

O gael siwt newydd neu - am wn i, o ddewis ffrog neu two-piece - i achlysur arbennig, mae’n rhaid cael eich mesur i sicrhau bod y cyfan oll yn ffitio’n dwt fel y dylai.

O ymweld â’ch meddyg teulu, bydd honno neu hwnnw yn siŵr o fesur eich tymheredd ac, neu’ch pwysau gwaed.

Mesur eich gallu bydd y person hwnnw wrth farcio eich papur arholiad.

Mesur eich cymwysterau fydd aelodau’r panel wrth eich holi mewn cyfweliad.

Mesur ... mae pawb wrthi’n mesur mewn rhyw ffordd neu’i gilydd prun ai i wybod maint eich esgidiau neu pa mor ddibynnol yw eich cymeriad.

Bu’n ffrae go dwym yn ein tŷ ni, blynyddoedd yn ôl bellach, pan gredodd un o’r plant fod pren mesur ei chwaer yn fwy na’i bren mesur ef. Cawsom dipyn o drafferth ei argyhoeddi mai troedfedd yw troedfedd, beth bynnag fod hyd y pren neu’r plastig. Pa mor wirion bynnag yr ymddangosai’r ddadl, fe fyddwn i gyd yn dueddol i wneud yr un camgymeriad. Mae gennym oll duedd digon anffodus i fesur pobl: mi rydw i yn fwy hyn a hyn na hwn a hwn, neu rydw’i llai hyn llall ac arall, na hon a hon.

Dim ond un llinyn mesur sydd: Iesu. Anghofiwn hyn; anghofiaf hyn. Nid ar y mesur a’r mesuriadau mae’r bai. Fi sydd ar fai. Wrth bwyso gormod ar fesuriadau, canlyniadau, rhifau a llythrennau - A*-E - mae’n hawdd colli golwg ar beth sydd wir yn bwysig: Iesu.

‘Rwy’n credu nad yw Iesu’n mesur fy ngwerth yn ôl y rhifau a ddaeth mor werthfawr i mi.

‘Rwy’n credu nad rhif ein dyddiau yw mesur gorau bywyd.

‘Rwy’n credu mai A* mewn hunan-barch a pharch at eraill; cyfiawnder, trugaredd, a rhyddid-ysbryd yw’r cyraeddiadau pwysicaf i bob plentyn ac oedolyn ifanc.

‘Rwy’n credu mod i’n gwybod mae pethau peryg yw mesuriadau. Gallant fesur, ond byth disgrifio; maddeued y Saesneg: they quantify but never qualify.

Ydw, ‘rwy’n credu hyn - hyn i gyd - ond i fenthyg geiriau un o gymeriadau’r efengylau: Yr wyf yn credu; helpa fi yn fy niffyg ffydd (Marc 9:24).

(OLlE)

CYTGAN

Pwy yw hon sy’n ymddangos fel y wawr, yn brydferth fel y lloer, yn ddisglair fel yr haul, yn urddasol fel llu banerog?

(Caniad Solomon 6:10 BCNad)

Un a gafodd ei addoli erioed oedd yr haul - gan y Canaaneaid, yr Asyriaid, yr Eifftiaid a’r Persiaid. Mewn ffurfafen ddigwmwl byddai disgleirdeb yr haul, a’i ddylanwad, er da neu ddrwg, yn wastadol amlwg.

Does dim syndod felly i’r haul ddatblygu i fod yn symbol o Dduw i’r Iddew: Canys haul a tharian yw yr ARGLWYDD Dduw (Salm 84:11 WM). Nid duw mo’r haul ond symbol o’r Duw mawr a greodd y cyfan oll o’r cyfan oll: Gwnaeth Duw y ddau olau mawr, y golau mwyaf i reoli’r dydd, a’r golau lleiaf y nos: gwnaeth y sêr hefyd (Genesis 1:16 BCNad).

Benthycwn brofiad y Salmydd yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:

... ei enw a bery tra fyddo haul ... (Salm 72:17 WM) ... Amen

SALM

Am ba hyd y cuddi dy wyneb oddi wrthyf? (Salm 13:1b)

Dywedwn yn aml fod yn rhaid i Dduw fod yn amyneddgar â ni, ac mor wir hynny! Profiad Elfed yw ein profiad ninnau:

Araf iawn wyf fi i ddysgu,

amyneddgar iawn wyt ti ...

Ond, fe wyddai’r Salmydd fod yn rhaid i ninnau hefyd fod yn amyneddgar yn ein disgwyl wrth Dduw. Gan mor araf yr oedd Duw, ofnai iddo ei anghofio’n llwyr. Y mae’r eithafion yn cyfarfod ym mhrofiad y Salmydd. Dechreua’r Salm hon â chwyn ond mae hi’n gorffen mewn gorfoledd: gobaith sydd yma yn anobeithio, ac anobaith yn gobeithio.

Ni fyddai’r Salmau yn adlewyrchu ein profiad heb fod yn eu plith y Salm hon. Yn dawel, dirgel - yn aml - y gweddïwn fel y Salmydd hwn: Am ba hyd y cuddi dy wyneb oddi wrthyf? (Salm 13:1b). Gwyddom am y dyfnder tywyll a wybu’r Salmydd hwn.

Gwyn ein byd hefyd, os gwyddom fel y Salmydd, am gymorth ymddiried yn dy ffyddlondeb a llawenhau yn dy waredigaeth (Salm 13:5). Os dechreuwn heb anawsterau fe orffennwn heb fuddugoliaeth.