Ym mis Mai 2013, cyhoeddwyd Adroddiad o Drafodaethau ac Argymhellion Gweithgor Gweinidogaeth Eglwys Minny Street. Y cyntaf o bum flaenoriaeth a nodwyd i waith a chenhadaeth yr eglwys hon oedd Addoliad. Wrth ymfalchïo yn arddull, naws ac ehangder ein haddoliad, teimlai’r Gweithgor bod yna gyfleoedd i gynyddu ymwneud aelodau yn ein hoedfaon. Hyn, nid yn unig er mwyn datblygu "gweinidogaeth yr holl saint", ond hefyd, fel modd i feithrin cynulleidfa a fydd, gobeithio, yn fwy parod i ymgymryd â threfnu ac arwain oedfaon pan fydd, efallai, mwy o alw (e.e. cyfnod di-weinidog). Cytunwyd bod angen meithrin, ymysg ein haelodau, barodrwydd i gynnig gwasanaeth yn hytrach na disgwyl i rywun ofyn. Gwelwyd hefyd gyfleoedd trwy’r fath ymwneud i ennyn ymdeimlad o gyd-weithio ymysg grwpiau o aelodau’r gynulleidfa.
Bellach, mae pob pumed Sul yn y mis yn gyfle i aelodau’r eglwys i drefnu a chynnal yr addoliad. Buddiol a bendithiol yw hyn. Bydd ein Hoedfa Foreol dan arweiniad aelodau a chyfeillion Caerffili, Pentre'r Eglwys a Phontypridd. Gan goffau eich grymiol ffydd, a’ch diwyd gariat ac ymaros eich gobaith yn ein Arglwydd Iesu Crist, rac bron Duw, sef ein Tat. (1 Thesaloniaid 1:3 Cyfieithiad William Salesbury). ‘Rydym yn diolch eleni am i Gymru, 450 mlynedd yn ôl, gael y Testament Newydd yn ei hiaith ei hun. Bydd ein Hoedfa Foreol yn gyfrwng i ddiolch a dathlu cyfraniad William Salesbury.
Cynhelir Ysgol Sul. Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi’r Oedfa.
Bydd yr Oedfa Hwyrol (18:00) yng ngofal aelodau a chyfeillion Yr Eglwys Newydd. Dewiswyd darlun fel sail i’r Oedfa: y greadigaeth fel theatr a’r ddaear fel llwyfan. Ar y llwyfan hwn yn y theatr hon y gwelwyd drama’r cadw yn datblygu ac yn dod i uchafbwynt gyda dyfodiad Iesu Grist. Â’r ddrama yn ei blaen, ond y mae’r cwmni a’r cyflwyniad yn newydd o genhedlaeth i genhedlaeth. Duw biau’r theatr. Ef hefyd yw awdur y ddrama a’i chyfarwyddwr, ond rhoddodd ryddid i’w gwmni wneud camp neu remp ohoni!
Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi’r oedfa.
Dyfal bu’r paratoi, a dygn y trefnu i sicrhau fod gan bawb - o’r ieuengaf i’r hynaf - ei le, cyfle a chyfraniad. Pawb a’i waith, a gwaith i bawb wrth gynnal gwasanaeth ac offrymu mawl ac addoliad. Gweddïwn am wenau Duw ar y Sul.
Koinônia amser cinio dydd Mercher (3/5; 12:00): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.
Babimini bore Gwener (5/5; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin.
Rhwydwaith Merched, Undeb yr Annibynwyr yng Nghapel y Priordy, Caerfyrddin (10:00-13:00 6/5): ‘Cefnogi ymgyrch miliwn o siaradwyr Cymraeg’; siaradwr gwadd: Arfon Jones. Boed bendith.