Bywyd a phrofiad y Saint Cymreig yw testun ein sylw eleni trwy gydol y 50 diwrnod rhwng Sul y Pasg a'r Pentecost. Trwy gyfrwng homilïau’r Sul a myfyrdodau wythnosol yn y daflen cyhoeddiadau, yr ydym ymhell ar ein ffordd i’r 50! Wrth ymgynnull am baned ar ôl yr Oedfa nos Sul byddwn wedi dysgu am - a dysgu gan - 23 o’r saint hyn.
Edrychwn ymlaen at hwyl a bwrlwm yr Oedfa Deulu (10:30); bydd rhaid didoli’r ffrwythau o’r llysiau; awn am dro i Langrannog cyn fras gamu lan i ogledd Cymru. Uwchben Porth Ysgo, ar lethr hardd, mae eglwys Llanfaelrhys. Wedi hyn oll, bydd pawb yn falch o’r ‘Cinio Gwerinwr’ fydd wedi ei baratoi ar ein cyfer yn y Festri wedi’r Oedfa er mwyn codi ymwybyddiaeth o Wythnos Cymorth Cristnogol (Mai 14-21).
Liw nos, yn yr Oedfa Hwyrol (18:00) bydd ein Gweinidog, mewn cyfres o fyfyrdodau byrion yn sôn am y saint Myllin, Tyfrydog, Seiriol a Derfel. Gyda Myllin Sant cawn ystyried arwyddocâd bedydd. Bydd Tyfrydog yn ein hatgoffa o bwysigrwydd Gair Duw. Cawn wers am fendith cydweithio gan Seiriol. Eiddo Derfel Sant y gair olaf; bydd yntau yn ein harwain at wir gadernid pobl Dduw: ein ‘Ceidwad cryf’, Iesu Grist.
Wrth y bwrdd cawn dderbyn aelodau newydd i’n plith, a bydd cyfle i gydymdeimlo â’r galarus, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint.
Bydd paned yn y Festri wedi’r Oedfa Hwyrol.
PIMS nos Lun (8/5; 19:00-20:30 yn y Festri): Paratoi i’r Pentecost. Bydd paent a phaentio ... felly dim angen eich dillad gorau!
Bethania nos Fawrth (9/5; 19:30-21:00). Diolch i Peter a Gill am ein croesawu. Y thema yw ‘Cyfeillion Paul’. Testun ein y sylw yn cyfarfod hwn bydd Luc (Colosiaid 4:14).
Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd (nos Iau 11/5; 19:00 yng nghapel Bethlehem, Gwaelod y Garth): Gwasanaeth Cymorth Cristnogol dan arweiniad Mr Huw Thomas. Gweddïwn am wenau Duw ar waith a chenhadaeth Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd.