'Munud i Feddwl' ein Gweinidog
O gael siwt newydd neu - am wn i, o ddewis ffrog neu two-piece - i achlysur arbennig, mae’n rhaid cael eich mesur i sicrhau bod y cyfan oll yn ffitio’n dwt fel y dylai.
O ymweld â’ch meddyg teulu, bydd honno neu hwnnw yn siŵr o fesur eich tymheredd ac, neu’ch pwysau gwaed.
Mesur eich gallu bydd y person hwnnw wrth farcio eich papur arholiad.
Mesur eich cymwysterau fydd aelodau’r panel wrth eich holi mewn cyfweliad.
Mesur ... mae pawb wrthi’n mesur mewn rhyw ffordd neu’i gilydd prun ai i wybod maint eich esgidiau neu pa mor ddibynnol yw eich cymeriad.
Bu’n ffrae go dwym yn ein tŷ ni, blynyddoedd yn ôl bellach, pan gredodd un o’r plant fod pren mesur ei chwaer yn fwy na’i bren mesur ef. Cawsom dipyn o drafferth ei argyhoeddi mai troedfedd yw troedfedd, beth bynnag fod hyd y pren neu’r plastig. Pa mor wirion bynnag yr ymddangosai’r ddadl, fe fyddwn i gyd yn dueddol i wneud yr un camgymeriad. Mae gennym oll duedd digon anffodus i fesur pobl: mi rydw i yn fwy hyn a hyn na hwn a hwn, neu rydw’i llai hyn llall ac arall, na hon a hon.
Dim ond un llinyn mesur sydd: Iesu. Anghofiwn hyn; anghofiaf hyn. Nid ar y mesur a’r mesuriadau mae’r bai. Fi sydd ar fai. Wrth bwyso gormod ar fesuriadau, canlyniadau, rhifau a llythrennau - A*-E - mae’n hawdd colli golwg ar beth sydd wir yn bwysig: Iesu.
‘Rwy’n credu nad yw Iesu’n mesur fy ngwerth yn ôl y rhifau a ddaeth mor werthfawr i mi.
‘Rwy’n credu nad rhif ein dyddiau yw mesur gorau bywyd.
‘Rwy’n credu mai A* mewn hunan-barch a pharch at eraill; cyfiawnder, trugaredd, a rhyddid-ysbryd yw’r cyraeddiadau pwysicaf i bob plentyn ac oedolyn ifanc.
‘Rwy’n credu mod i’n gwybod mae pethau peryg yw mesuriadau. Gallant fesur, ond byth disgrifio; maddeued y Saesneg: they quantify but never qualify.
Ydw, ‘rwy’n credu hyn - hyn i gyd - ond i fenthyg geiriau un o gymeriadau’r efengylau: Yr wyf yn credu; helpa fi yn fy niffyg ffydd (Marc 9:24).
(OLlE)