CYTGAN

Pwy yw hon sy’n ymddangos fel y wawr, yn brydferth fel y lloer, yn ddisglair fel yr haul, yn urddasol fel llu banerog?

(Caniad Solomon 6:10 BCNad)

Un a gafodd ei addoli erioed oedd yr haul - gan y Canaaneaid, yr Asyriaid, yr Eifftiaid a’r Persiaid. Mewn ffurfafen ddigwmwl byddai disgleirdeb yr haul, a’i ddylanwad, er da neu ddrwg, yn wastadol amlwg.

Does dim syndod felly i’r haul ddatblygu i fod yn symbol o Dduw i’r Iddew: Canys haul a tharian yw yr ARGLWYDD Dduw (Salm 84:11 WM). Nid duw mo’r haul ond symbol o’r Duw mawr a greodd y cyfan oll o’r cyfan oll: Gwnaeth Duw y ddau olau mawr, y golau mwyaf i reoli’r dydd, a’r golau lleiaf y nos: gwnaeth y sêr hefyd (Genesis 1:16 BCNad).

Benthycwn brofiad y Salmydd yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:

... ei enw a bery tra fyddo haul ... (Salm 72:17 WM) ... Amen

SALM

Am ba hyd y cuddi dy wyneb oddi wrthyf? (Salm 13:1b)

Dywedwn yn aml fod yn rhaid i Dduw fod yn amyneddgar â ni, ac mor wir hynny! Profiad Elfed yw ein profiad ninnau:

Araf iawn wyf fi i ddysgu,

amyneddgar iawn wyt ti ...

Ond, fe wyddai’r Salmydd fod yn rhaid i ninnau hefyd fod yn amyneddgar yn ein disgwyl wrth Dduw. Gan mor araf yr oedd Duw, ofnai iddo ei anghofio’n llwyr. Y mae’r eithafion yn cyfarfod ym mhrofiad y Salmydd. Dechreua’r Salm hon â chwyn ond mae hi’n gorffen mewn gorfoledd: gobaith sydd yma yn anobeithio, ac anobaith yn gobeithio.

Ni fyddai’r Salmau yn adlewyrchu ein profiad heb fod yn eu plith y Salm hon. Yn dawel, dirgel - yn aml - y gweddïwn fel y Salmydd hwn: Am ba hyd y cuddi dy wyneb oddi wrthyf? (Salm 13:1b). Gwyddom am y dyfnder tywyll a wybu’r Salmydd hwn.

Gwyn ein byd hefyd, os gwyddom fel y Salmydd, am gymorth ymddiried yn dy ffyddlondeb a llawenhau yn dy waredigaeth (Salm 13:5). Os dechreuwn heb anawsterau fe orffennwn heb fuddugoliaeth.

CYTGAN

Pwy yw hon sy’n ymddangos fel y wawr, yn brydferth fel y lloer, yn ddisglair fel yr haul, yn urddasol fel llu banerog?

(Caniad Solomon 6:10 BCNad)

Gwêl y cariad ei anwylyd yn awr fel y lleuad. Rhoddai’r Iddew fri mawr ar y lleuad. Wrth gyfnewidiadau’r lleuad y cyfrifid y mis a’r flwyddyn; cynhelid gwyliau pan ymddangosai’r lleuad. Byddai ei thegwch yn sicr o’i gwneud yn wrthrych addoliad, a dyna pam efallai y ceir gorchymyn yn Llyfr Deuteronomium yn atal addoli’r lleuad: Gwylia ... na fyddi’n codi dy olwg i’r nefoedd ac yn edrych ar yr haul, y lleuad neu’r sêr, holl lu’r nefoedd, a chael dy ddenu i ymgrymu iddynt a’u haddoli ... (Deuteronomium 4:19).

Yn nos ein hamseroedd, gweddïwn ar i’r Eglwys, yn lleol, ac felly ledled byd fod yn brydferth fel y lloer, sy’n arwydd o lendid ac o burdeb.

Benthycwn brofiad y Salmydd yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:

Bydd wedi ei sefydlu am byth fel y lleuad,

yn dyst ffyddlon yn y nef (Salm 89:37) ... Amen

SALM

Ymddiried yn yr ARGLWYDD a gwna ddaioni, iti gael byw yn y wlad mewn cymdeithas ddiogel (Salm 37:3; buddiol buasai darllen adnodau 1-9).

Er mwyn nofio mae’n rhaid bwrw eich hun i’r dŵr; ymddiried eich hun i’r dyfnder cyn profi bod y dŵr yn cynnal. Nid oes geiriau i’r weddi fwyaf elfennol, meddai Colin Morris: It’s wordless. It is simply letting go, resting back, floating like a tired swimmer, trusting ... Dyna brofiad y Salmydd hefyd: Bwrw dy faich ar yr ARGLWYDD ac efe a’th gynnal (Salm 55:22). Ymddiried yn yr ARGLWYDD a gwna ddaioni ... (Salm 37:3).

Profiad o ddiogelwch a chael ei gynnal oedd eiddo Gobeithiol yn Taith y Pererin. Mentrodd Gobeithiol groesi’r afon ddofn, ddu. O’i chanol y mae’n galw ar ei gyfaill ar y lan: Ymwrola, fy mrawd, rwy’n teimlo’r gwaelod ac y mae’n gadarn. Gweddïwn am gael teimlo'r breichiau tragwyddol oddi tanom.

(OLlE)