Mae'n Ddiwrnod Rhyngwladol Jazz! Beth yw jazz? Man, if you don’t know, I could never tell you oedd ateb Louis Armstrong. Mae jazz, canu gospel a’r blues yn frodyr a chwiorydd i’w gilydd: plant i ganu’r caethweision. Gwarth ac ing caethwasiaeth esgorodd ar ganu jazz. Er eu hamddifadu o’u rhyddid a’u teuluoedd, eu gobaith, eu hiaith a’u diwylliant, nid oedd modd dwyn y gân oddi wrthynt. Troesant eu hiraeth a’u poen, eu hymdrech i gadw’n fyw yn gân. Gyda threigl y blynyddoedd daeth cerddoriaeth y caethweision a’u hetifeddion yn falm enaid i etifeddion y rheini fu’n hybu caethwasiaeth.
Mae jazz yn treiddio i ddyfnder enaid; mae’n gerddoriaeth sydd yn ein cysylltu â gwraidd ein dolur a ffynhonnell ein cysur. I fod yn gerddor jazz rhaid ymarfer. Rhaid hefyd dysgu canu’n ddifyfyr; nid dim ond gydag eraill ond hefyd sut mae cynganeddu’n gywrain a thelynegu’n soniarus. Nid hawdd mo hyn! Anodd yw camu o fyd y cyfarwydd i fyd y posibiliadau di-ben-draw; anodd mentro canu y tu hwnt i’r hyn a wyddoch.
I’ve always told the musicians in my band to play what they know and then play above that. Because then anything can happen, and that’s where great art and music happen.
Gellid awgrymu, yn y dyfyniad uchod, fod Miles Davies yn siarad nid yn unig am gelfyddyd a cherddoriaeth, ond hefyd am fywyd. Dyma’r her i bawb ohonom: defnyddio ein dychymyg; bod yn greadigol yn ein ffydd, yn fentrus drosti, ynddi ac o’i herwydd - i dorri tir newydd, i gamu y tu hwnt i’r hyn a wyddom - to play what we know and then play above that.
Mater o ganu’n ddifyfyr yw bywyd pob Cristion. Wynebwn bob math o sefyllfaoedd gwahanol a gofynion di-ben-draw ar ein hamser, egni ac amynedd; daw rhwystredigaethau a siomedigaethau; daw hwyl, llonydd a llawenydd. Ein nod yw meithrin yr ystwythder, hyblygrwydd a menter sydd ei angen i rannu cariad Crist yn effeithiol ag eraill: to play what we know and then play above that.
(OLlE)