Y mae dy air yn llusern i’m troed, ac yn oleuni i’m llwybr. (Salm 119:105 BCN)
Rhaid dychwelyd at yr adnod gan fod rhaid cydnabod y Gair a wnaethpwyd yn gnawd, a'r goleuni a lifodd i fywyd y byd trwyddo Ef ... ynddo ef bywyd ydoedd, a'r bywyd goleuni dynion ydoedd (Ioan 1:4 BCN).
Y mae’r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch ... ac y mae'r goleuni a lewyrcha yn y tywyllwch yn datguddio llawer. Teithiais sawl tro trwy dref gyfagos yng ngolau'r dydd a holais fy hun lawer gwaith ynglŷn â sefyllfa capel llwyd a di-raen. A oedd yno rywrai yn addoli Duw bellach? Teithiais drwy'r dref a’r nos wedi disgyn, a gwelais olau yn y capel. Y goleuni a lewyrchai yn y tywyllwch a ddatguddiodd imi'r ffaith fod y drws ar agor, y weinidogaeth a'r gwasanaeth yn parhau. Nid difa gobaith a wna enbydrwydd ein dyddiau ond datguddio gobaith. Pwy a wad nad oes gwylltineb yn y byd? Credwn er hynny fod yna Un cadarnach, a bod cadernid yr Un hwnnw o'n plaid.
O! Dad, dyro i ni sylweddoli fod y Gair yn llewyrch ar ein llwybrau oll. Amen.