'Munud i Feddwl' ein Gweinidog
Mawrth 17eg: Dydd Gŵyl Padrig Sant - nawdd sant y Gwyddyl. Dethlir St Patricks Day ledled byd, a hynny’n frwd! Yng nghudd y tu ôl i’r holl shenanigans a shamrocks mae stori am ŵr ifanc dygn, dewr, dylanwadol - credadun.
Slemish neu’n draddodiadol Slieve Mish. Yn codi’n ddigywilydd o wastatir Antrim mae talp o gadernid folcanig: Slemish.
Slemish. Cyrchfan pererinion pob dydd Gŵyl Padrig Sant.
Yn ôl yr hen goel, yn y 5ed Ganrif herwgipiwyd y Padrig ifanc gan ymosodwyr o’r Iwerddon. Aethpwyd ag ef, ymhell o’i gynefin yng ngorllewin Prydain i Slemish. Ar lethrau Slemish y treuliodd Padrig flynyddoedd ei harddegau hwyr yn gaethwas i ddyn o’r enw Miluic. Blynyddoedd caled o ddiflastod beunyddiol oedd y rhain: bugeilio defaid ar Slemish.
Delwedd: Tony O'Neill
Slemish. Yn Slemish darganfu Padrig Dduw. Onid cwbl gyfan gamarweiniol yw’r cymal llyfn hwnnw ‘darganfu Padrig Dduw'?! Mae’r gwirionedd llawer fwy cyffrous: yn Slemish, darganfuwyd Padrig gan Dduw. Ar lethrau Slemish, cydiodd Duw yn Padrig.
Chwe blynedd yn ddiweddarach, llwyddodd Padrig i ddianc. Dihangodd o Slemish; dihangodd rhag caled gaethiwed Miluic y Gwyddel. Wedi dychwelyd i’w gynefin, daeth yr alwad. Galwad a fu yn hanes a phrofiad Padrig. Pa fath alwad oedd hon? Galwad at bwy? Galwad i ble? Clywodd Padrig Dduw yn galw yn yr iaith Wyddeleg. Galwyd Padrig i wasanaethu Iesu, ac amlygu Crist ymhlith y Gwyddyl, gan ddechrau gyda ... Miluic! Galwyd Padrig i weinidogaeth ymhlith a thros y rheini a’i herwgipiodd ac a fu mor ddi-hid ohono. Ie, galwad a fu. Ateb a fu, yn derfynol a di-droi’n ôl. ‘Roedd mor syml â hynny iddo, a phlygu wedyn y doniau a’r cyneddfau oll i ufudd-dod Iesu Grist. Dychwelodd Padrig i Iwerddon, dychwelodd at y Gwyddyl, dychwelodd at Miluic â ffydd yn rhodd.
Slemish. Bydd y ffyddlon y pererindota i Slemish ddydd Gwener. Pa rhyfedd? Dethlir bywyd a chyfraniad dyn a wrthododd ganiatáu i chwerwedd bywyd chwerwi ei fyw. Darganfu Padrig ryddid deublyg ein ffydd - rhyddid corff a rhyddid ysbryd. O ddarganfod y rhyddid deublyg hwn i ni'n hunain, a cheisio fel ag y medrwn i’w sicrhau i eraill, saint fyddwn ninnau hefyd, bob un.
(OLlE)