Yr wyt i gyd yn brydferth, f’anwylyd;
nid oes yr un brycheuyn arnat.
(Caniad Solomon 4:7 BCN)
... nid oes yr un brycheuyn arnat. Defnyddia Paul yr un gair yn Effesiaid 5:27 i ddisgrifio Eglwys Iesu Grist ... er mwyn iddo ef ei hun ei chyflwyno iddo’i hun yn ei llawn ogoniant, heb fod arni frycheuyn na chrychni na dim byd o’r fath ... Mynnai Awstin Sant fod brycheuyn yn golygu'r diffygion yng nghyfryngau’r Eglwys, a chrychni y diffygion yn nibenion yr Eglwys.
‘Roedd ‘glân’ ac ‘aflan’ yn gyflyrau pwysig i’r Iddew, yn bersonol ac yn grefyddol. Cyflyrwyd cymundeb â Duw gan lendid seremonïol, ac er bod hynny’n syniad crefyddol, mae’n debyg iddo yn y lle cyntaf gael ei gysylltu â glendid corfforol. Felly, ‘roedd angen paratoad i gyfarfod â Duw.
Benthycwn brofiad Elfed (1860-1953) yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:
Glanha dy Eglwys, Iesu mawr
ei grym yw bod yn lân;
sancteiddia’i gweddi yn ei gwaith
a phura hi’n y tân. Amen.
(OLlE)