DIWRNOD RHYNGWLADOL O HAPUSRWYDD

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

Chi’n hapus d’edwch? Mae’n rhaid bod yn hapus heddiw! Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi dethol heddiw fel Diwrnod Rhyngwladol o Hapusrwydd. Heddiw, byddwch hapus! Rhaid bod yn hapus drwy’r dydd heddiw!

Dychmygwch Beiriant Hapusrwydd. Dychmygwch gael cynnig y cyfle i gysylltu eich hunan wrth y peiriant hwnnw, a hynny am oes. Mae’r Peiriant Hapusrwydd yn hawlio eich bywyd yn gyfan, ond yn creu yn eich dychymyg bywyd cwbl newydd; bywyd sydd yn teimlo’n gwbl real. Mae’r Peiriant yn gwarantu gwireddu pob breuddwyd, dymuniad a dyhead o’ch eiddo. Go iawn, buasech yn gorwedd ym mherfedd y peiriant, ond yn eich dychymyg buasech yn cyflawni rhyfeddodau bach a mawr ... go iawn. A fuasech chi’n manteisio ar y cyfle hwnnw? Buasech chi’n barod i beidio byw go iawn er mwyn cael cogio byw yn hapus iawn?

Am wn i, mae hapusrwydd yn debyg iawn i sbectol. Fe allwch chi fod wrthi’n ddygn a dyfal yn twrio a chwilio am eich sbectol, heb i chi sylweddoli, trwy gydol y chwilio a thwrio fod y sbectol ar eich pen.

Mae’n rhaid i ymddiheuro i’r Cenhedloedd Unedig am fod mor ddilornus o’r bwriad i neilltuo un diwrnod i bobl cael meddwl am ystyr bod yn hapus. Yn bersonol ac yn genedlaethol, buddiol heddiw buasai ystyried anogaeth Albert Einstein (1879-1955): The best way to cheer yourself up is to cheer someone else up. Rhown gynnig arni, ac o wneud hynny bob dydd, gallasai bob dydd fod yn Ddiwrnod Rhyngwladol o Hapusrwydd.

 (OLlE)