Sut y ceidw llanc ei lwybr yn lân?
Trwy gadw dy air di.
(Salm 119:9 BCN)
Nid i’w darllen ond i’w canu a’u hadrodd y cyfansoddwyd y salmau yn wreiddiol. Yng nghyfnod yr Hen Destament ychydig iawn o bobl oedd yn medru darllen. Dibynnent ar eu cof am storïau i’w hadrodd fin nos o gwmpas y tân, ac am emynau i’w canu yn y deml neu ar bererindod i Jerwsalem. Am fod yr Israeliad yn defnyddio a datblygu ei gof o’i blentyndod, gallwn fentro nad oedd yn cael llawer o anhawster i gofio unrhyw beth a fynnai. Er hynny, y mae’n debyg fod yna gryn dipyn o duchan a grwgnach pan fyddai’r Salm Fawr yn ymddangos yn y maes llafur yn ysgolion Jerwsalem. Nid am ei bod mor hir - er bod cant saith deg chwech o adnodau yn siŵr o drethu’r cof gorau - ond am fod y bardd yn ailadrodd yr un pwynt yn barhaus gyda mân wahaniaethau yn y testun, ac o’r herwydd yn gwneud y gân yn anodd cofio.
Ond, os oedd yr ailadrodd hwn yn anfanteisiol i’r disgybl Iddewig, y mae’n gymorth i’r esboniwr sy’n ceisio crynhoi neges y salm. Nid oes angen darllen ond ychydig o’r penillion wyth adnod i ddarganfod pwnc y Salmydd. Pwysigrwydd Gair Duw i’r unigolyn yw thema ganolog y bardd. Trwy’r cyfamod ar fynydd Sinai ‘roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi’r Gyfraith i’w bobl er mwyn iddynt fedru byw mewn cymdeithas ag ef. Sylwer ar y geiriau cyfystyr a ddefnyddir gan yr awdur ym mhob adnod bron o’r salm i gyfeirio at y Gyfraith: barnedigaethau, gofynion, deddfau, barnau, addewid, ffyrdd, llwybrau, - geiriau sy’n awgrymu fod Cyfraith Duw yn cynnwys y cwbl sy’n angenrheidiol i’r sawl sydd am fyw'r ffydd fel y dylai.
Ti yw Arglwydd fy mywyd, a bod yn ufudd i ti yw fy mhennaf anrhydedd. Amen.