Cymerodd hwy gydag ef ac encilio o'r neilltu i dref a elwir Bethsaida (Luc 9:10b).
Orant (Praying Figure) Rhufain; y drydedd ganrif
Wedi hoe fach dros gyfnod yr Adfent, daeth cyfle i ailgydio yng ngwaith ‘Bethsaida’.
‘Bethsaida’? Beth yw 'Bethsaida'?
Y mae i’n berthynas â Duw ei wedd gyhoeddus a’i wedd bersonol, a rhaid wrth y naill a’r llall. Ni ellid cynnal y bywyd defosiynol heb addoliad y gynulleidfa, a buan y mae addoliad yn colli ei flas heb elfen o ddefosiwn personol. Rhaid wrth allor yn y galon, yn ogystal â’r allor yn y deml. Mae ‘Bethsaida’ yn gyfle ac yn gyfrwng i ehangu ein bywyd defosiynol.
Cedwir at yr un patrwm o gyfarfod i gyfarfod. Salm; cyflwyniad gan y Gweinidog ar elfen o’r bywyd defosiynol, trafodaeth ac yna awgrym neu ddwy ynglŷn ag arfer dda, neu ddiddorol, o weddïo’n bersonol, a gorffen gyda chyfnod o weddi.
Wedi cyd-ddarllen Salm 86, aethom i’r afael â Gweddi’r Arglwydd. Ceir dau fersiwn o Weddi’r Arglwydd yn y Testament Newydd, un yn Efengyl Mathew (6:9-13) a’r llall yn Efengyl Luc (11:1-4). Awgrymodd y Gweinidog mai llesol buasai gosod y naill fersiwn a’r llall wrth ochr ei gilydd er mwyn cymharu, a gweld lle maent yn debyg, ac yn annhebyg i’w gilydd:
Y gwahaniaeth amlycaf yw’r diweddglo. Mae’r diweddglo sydd gan Mathew yn adlais o’r adnod hon: I Ti, ARGLWYDD, y mae mawredd a gallu a gogoniant, a goruchafiaeth a harddwch; canys y cwbl yn y nefoedd ac ar y ddaear sydd eiddot ti. Y deyrnas sydd eiddot ti, yr hwn hefyd a ymddyrchefaist yn ben ar bob peth (1 Cronicl 29:11: WM).
Atgoffwyd ni gan y Gweinidog nad yr un yw cefndir Gweddi’r Arglwydd yn Mathew a Luc. Yn Efengyl Mathew, daw Gweddi’r Arglwydd yng nghanol dysgeidiaeth Iesu ar weddi yn y Bregeth ar y Mynydd (6:5-15). Rhoddwyd y weddi mewn atebiad i gais un o’r disgyblion yn ôl Luc (11:1). Barn ysgolheigion ydyw mai lleoliad y weddi yn ôl trefn Luc sydd gywiraf o’r ddau. Iesu ei hun oedd achlysur y weddi yn ôl Luc: A bu ac Efe mewn rhyw fan yn gweddïo, pan beidiodd, ddywedyd o un o’i ddisgyblion wrtho, 'Dysg i ni weddïo'. ‘Roedd ei weld a’i glywed yn gweddïo yn codi awydd ymhlith y disgyblion am gael gwneud yr un fath. Wrth weddïo ei hun, rhoes Iesu Grist urddas a phwysigrwydd i weddi. Iesu felly yw Athro gweddi.
Wedi hynny o ragymadrodd, cafwyd cyfle i drafod: Pam yr ydym wedi mabwysiadu geiriad Gweddi’r Arglwydd yn ôl Mathew yn hytrach na Luc? Ydi’r diweddglo - diweddglo nas ceir gan Luc - yn angenrheidiol i’r weddi? Oes angen athro i ddysgu gweddïo?
Yn unol â threfn arferol y cyfarfodydd hyn, aethom yn ein blaenau i rannu arfer dda, neu ddiddorol, o weddïo’n bersonol. Soniodd y Gweinidog am sut mae ystum y corff yn gwasanaethu ein defosiwn. Ystyr y gair Cymraeg ‘addoli’ yw plygu. Onid all ogwydd y corff wrth weddïo amlygu cyfeiriad y meddwl a’r ysbryd? Dyma pam y daeth yn arfer gennym i gau llygaid, plygu pen - penlinio efallai - gan osod dwy law ynghyd. Ond, gan dynnu’n sylw at ffresgo o feddrod teuluol yn Rhufain, gellid gweld fod y ffigwr canolog yn arfer ystum y Cristnogion cynnar wrth weddïo: ar ei draed mai hwn (neu hon efallai), llygaid ar agor, a’i ben yn uchel, ei ddwylo ar led. Mae’r pwyslais yn gwbl wahanol i’n harfer ninnau. Awgrymodd y Gweinidog fod ystum y Cristion cynnar hwn yn cyfleu rhywbeth pwysig am weddi a gweddïo. Onid gwaelod pob gweddi a gwraidd pob gweddïo yw bod yn agored i Dduw? Gosodwyd ychydig o waith cartref heno: i weddïo Gweddi’r Arglwydd yng nghwmni’r Cristion cynnar hwn. A fydd yr ystum agored, diamddiffyn yn newid naws y weddi a’r gweddïo?
Yn ein cyfnod o weddi heno, gan ganolbwyntio eto, ar y ddelwedd uchod, defnyddiwyd tair gweddi benthyg. Bu cyfle i fyfyrio, ac i weddïo’n dawel rhwng bob un. (Daw'r gweddïau o'r gyfrol gyfoethog 'Amser i Dduw. Trysorfa o weddïau hen a newydd' Gol . Elfed ap Nefydd Roberts; Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf, 2004).
O! Arglwydd, una’n hysbryd ni ag Ysbryd Iesu Grist, dy Fab di, a Mab Duw, ein Duw a’n Brawd ninnau; fel trwy'r undeb agos a bywiol hwnnw y dysgwn ni garu fel y carodd ef, a bendithio fel y bendithiodd ef, a gweddïo fel y gweddïodd ef. Amen.
Emrys ap Iwan (1851-1906)
Dduw cariadus, agor ein calonnau...
fel y gallwn deimlo anadl dy Ysbryd yn chwarae ynom;
agor ein dyrnau...
fel y gallwn estyn llaw i’n gilydd a chyffwrdd ac iacháu;
agor ein gwefusau...
fel y gallwn ddrachtio mwynder a rhyfeddod bywyd;
agor ein clustiau...
fel y gallwn glywed dy ddioddefiadau di yn ein creulonderau ni;
agor ein llygaid...
fel y gallwn weld Crist mewn cyfaill a dieithryn.
Anadla dy Ysbryd i mewn i ni a chyffwrdd ein bywyd â bywyd Crist. Amen.
Helder Camara, (1909-99)
Bywyd wyt, fy Arglwydd;
bywyd a llawenydd ac angerdd pob creu.
Llanw dy was â goleuni dy nefoedd:
llanw fy nghorff a’m henaid,
fy ngwaed a’m dychymyg;
llanw fy mywyd â’th fywyd di.
Pâr i mi fwynhau ac ymorffwys yn llifeiriant dy nerth creadigol a chymodol, ac yn y cariad sydd o dragwyddoldeb i dragwyddoldeb. Amen
Pennar Davies (1911-96)
‘Bethsaida’ - cafwyd cyfle i drafod; ystyried ac i ailystyried; egwyl i sefydlu ein meddwl ar Dduw a phrofi ei bresenoldeb yn ein hamgylchynu. Braf a buddiol 'Bethsaida'.