...daethant i Genesaret ac angori wrth y lan. (Marc 6:53b)
Paned a sgwrs yn y Terra Nova, Parc Llyn y Rhath
Terra Nova...
11 y bore, amser paned, ac ‘roedd awydd baned ar nifer dda ohonom heddiw. Bu’n rhaid gwthio dau fwrdd ar ei gilydd, â’r 13 ohonom yn gwasgu o gwmpas y byrddau. Er mor adfywiol y baned, y drafodaeth a’n bywiocaodd.
Dyma fan cychwyn ein trafodaeth:
Gofynnodd y Gweinidog a oedd rhywun yn cofio’r sgwrs plant bore Sul? Llaw? Gweddi a gweddïo? Daeth yr atebion. Y bawd sydd gosaf atom: rhaid cofio gweddïo dros y bobl sydd gosaf atom. Mae’r mynegfys yn dangos y ffordd. Gweddïwn dros y bobl sydd yn ein harwain. Y bys mwyaf yw’r trydydd, â hwnnw’n ein hatgoffa i gofio am y bobl mewn awdurdod - yn lleol, yn genedlaethol a ledled byd. Cofiwn am y gwan wrth ystyried y bys gwanaf ohonynt i gyd a gorffen, gyda ni’n hunain: y bys bach.
Hyn oll yn arwain at bos arall: llaw wag a phum adnod:
GOFYN
... rhoddodd yr ARGLWYDD imi’r hyn a ofynnais ganddo (1 Samuel 1:27).
DIOLCH
Diolchwch bob amser am bob dim i Dduw y Tad yn enw ein Harglwydd Iesu Grist (Effesiaid 5:20).
MAWL
Fy enaid, mola’r ARGLWYDD. Molaf yr ARGLWYDD tra byddaf byw (Salm 146:1,2)
CYFFES
Os cyffeswn ein pechodau, y mae ef yn ffyddlon ac yn gyfiawn, ac fe faddeua felly, inni ein pechodau ... (1 Ioan 1:9).
YMBIL
Ymrowch i weddi ac ymbil ... (Effesiaid 6:18)
Y dasg, gan gofio’r neges i’r plant bore Sul, oedd cydio’r adnodau hyn wrth fys penodol. Buddiol a brwd bu’r drafodaeth, ac fel hyn gosodwyd yr adnodau:
MAWL - Bawd
Fy enaid, mola’r ARGLWYDD. Molaf yr ARGLWYDD tra byddaf byw (Salm 146:1,2)
DIOLCH - mynegfys
Diolchwch bob amser am bob dim i Dduw y Tad yn enw ein Harglwydd Iesu Grist (Effesiaid 5:20).
YMBIL - y bys mwyaf
Ymrowch i weddi ac ymbil ... (Effesiaid 6:18)
CYFFES - y bys gwanaf
Os cyffeswn ein pechodau, y mae ef yn ffyddlon ac yn gyfiawn, ac fe faddeua felly, inni ein pechodau ... (1 Ioan 1:9).
GOFYN - y bys bach
... rhoddodd yr ARGLWYDD imi’r hyn a ofynnais ganddo (1 Samuel 1:27).
Ffurf o addoliad yw gwir weddi, felly dylai MAWL i Dduw fod yn ddechrau iddo. Arwain y mawl at y DIOLCH. ‘Roedd y cwmni’n gytûn mai anodd oedd gwahanu MAWL oddi wrth y DIOLCH. Y bys mwyaf yw YMBIL - rhaid yw inni gofio am bobl eraill. Dylai’ ymbil a’r eiriolaeth fod mor eang â theyrnas Dduw. Mae’r bys gwanaf ohonynt yn ein hatgoffa o’n gwendid, a’r angen felly i ymdeimlo â’n pechod ac â’n gwaeledd. Y bys bach? Nyni. Er mor bwysig yw cofio am y NI fawr, rhaid hefyd yw cofio am y FI fach, a chyflwyno i Dduw fy niolch, fy ngofid.
Diolch am awr fach yng nghwmni’n gilydd wrth ymyl llyn llonydd Parc y Rhath. Cawsom egwyl fach am sgwrs; cyfle i drafod a meddwl.