NEWYDDION Y SUL

Yn ei gyfarchiad Nadolig (Y Tyst, Rhagfyr 24/31 2015) soniai'r Parchedig Ddr Geraint Tudur fod 2016 wedi ei dynodi yn Flwyddyn y Beibl Byw gan yr enwadau Cymraeg. Y nod, meddai ‘yw codi ymwybyddiaeth o’r Beibl ac annog pobl i’w ddarllen a’i fwynhau. Gobeithiwn y bydd pob eglwys a phob Cyfundeb yn gwneud rhywbeth fel rhan o’r ymgyrch hon gan gofio fod gennym dri chyfieithiad o’r Beibl bellach, William Morgan a’i ddisgynyddion, y Beibl Cymraeg Newydd a Beibl.net.

Fel rhan o’n hymateb ninnau fel eglwys i her a hwyl Blwyddyn y Beibl Byw darperir cyfres o fyfyrdodau byrion yn seiliedig ar Efengyl Ioan. Ym mhob un, ceir awgrym o ddarlleniad, a myfyrdod bychan, bachog yn seiliedig ar yr adnodau rheini. Bydd y myfyrdod yn ymddangos yn ddyddiol o ddydd Sul Rhagfyr 27ain hyd at ddydd Mawrth Ynyd (9/2/2016) ar ein cyfrif trydar @MinnyStreet

Yn ogystal, gwahoddwyd Arfon Jones atom i arwain Oedfa Foreol Gynnar cyntaf y flwyddyn. Llongyfarchwn Arfon ac Ymddiriedolaeth Gobaith i Gymru am sicrhau i Gymry Cymraeg Air Duw mewn Cymraeg llafar a chwbl ddealladwy. Lansiwyd ‘ap’ newydd i alluogi pobl i ddarllen y Beibl ar ffôn symudol neu iPad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod. Mae ap Beibl yn cynnwys tri chyfieithiad o’r Beibl: un o Feibl 1588, un o Feibl 2004 a’r fersiwn ddiweddaraf, sef Beibl.net. Yn ddiweddar iawn, cyhoeddwyd yr addasiad tan gamp hwnnw o’r Beibl. Dechreuodd Beibl.net ar-lein fel ymgais i fynegi neges a chyfleu cyfoeth y Testament Newydd trwy gyfrwng Cymraeg syml ac anffurfiol. Erbyn 2013 ‘roedd y Beibl cyfan ar gael ar-lein. Mae’r fersiwn print newydd o Beibl.net yn boblogaidd iawn. Braf, buddiol a bendithiol oedd cael derbyn o arweiniad Arfon y bore ‘ma. Er bod y cyfieithiadau ac addasiadau - y geiriau - yn amrywio, diben pob addasu a chyfieithu yw amlygu gwir ddisgleirdeb Air disglair Duw. (Graham Kendrick. cyf. Casi Jones CFf.:228)

Rhwng y naill Oedfa fore a’r llall cafwyd cyfle am baned, sgwrs a brecwast ysgafn sydyn, heb anghofio’r nwyddau Masnach Deg a chyfrannu i’r Banc Bwyd.

Yn yr Oedfa Foreol, cafwyd cyfle i ail-gydio yn y gyfres pregethau yn ystyried Efengyl Marc, a hynny o bersbectif y flwyddyn 70, pan gwympodd Jerwsalem a dinistriwyd y Deml gan fyddinoedd Rhufain. Trodd y Gweinidog at hanes galw Lefi (Marc 2:13-17). Mae'r Phariseaid wedi llwyr ddrysu, yn grwgnach ymhlith ei gilydd. ‘Does dim syndod eu bod nhw cwyno. Mae Iesu'n prysur dorri rheolau a chwalu confensiynau crefyddol a chymdeithasol ei ddydd. Pechaduriaid, gwehilion cymdeithas oedd y casglwyr trethi, credwyd eu bod nhw yn esgymun gan Dduw, ac felly esgymun oeddent gan bobl. Pobl-y-tu-allan oedd y rhain, ac mae Iesu'n meiddio dweud wrthynt fod Duw yn eu caru; fod Duw yn maddau eu pechodau. Lefi, casglwr trethi, pechadur, esgymun... Canlyn fi (14).

I'r Phariseaid 'roedd hyn yn anathema. ‘Doedd gan gasglwyr threthi ddim hawl i dderbyn cariad Duw. Roedd maddeuant yn amhosibl iddynt. Pechaduriaid oeddent. Rhaid wrth ‘nhw’ i bob ‘ni’. ‘Nhw’ y Phariseaid oedd y casglwyr trethi. Safodd y Pharisead wrtho'i hun a gweddïodd fel hyn: O Dduw, yr wyf yn diolch iti am nad wyf fi fel pawb arall, yn rheibus, yn anghyfiawn, yn odinebus, na chwaith fel y casglwr trethi yma. Yr wyf yn ymprydio ddwywaith yr wythnos, ac yn talu degwm ar bopeth a gaf. (Luc 18: 11&12).

Meddyliodd y Phariseaid, fel llawer o bobl grefyddol ar eu holau, fod ganddynt hawl ar gariad Duw. ‘Roedd eu ffyddlondeb yn gwarantu bendith Duw. Mater o fargeinio oedd crefydd iddynt - os gwnawn ni'r peth a’r peth disgwyliwn i ti, ein Duw, wneud hyn a’r llall. Mater o gariad oedd crefydd i Iesu. Ysgrifennwyd Efengyl Marc i argyhoeddi Iddewon Jerwsalem fod rhaid iddynt nawr, a’r Deml yn sarn, dderbyn neges Iesu Grist: neges o gariad, cariad eithriadol beryglus. Mae’r Deml yng Nghymru’n sarn - mae’r hen ffordd o grefydda wedi darfod mewn gwirionedd. Yr ateb i’n hargyfwng? Yr un ateb ydyw a gynigwyd gan yr Iddewon Cristnogol i bobl y flwyddyn 70: cariad, a’r cariad hwnnw’n gariad i bawb - i bawb yn ddiwahân.

Ers sawl blwyddyn bellach, ‘rydym yn cynnal Gwasanaeth Plygain ar ddechrau’r flwyddyn newydd. Buom yn ei gynnal yng nghapel syml Bethesda’r Fro ond erbyn hyn eglwys hardd Teilo Sant yn Sain Ffagan yw’n cyrchfan. Y Parchedig Ddr R. Alun Evans, aelod ‘anrhydeddus’ gyda ni yn Eglwys Minny Street sydd wedi arwain ein Plygain lawer tro, a mawr ein diolch iddo. Wedi defosiwn byr (a chyfoethog) ganddo, cyhoeddwyd y blygain ‘ar agor’. Hanfod y Blygain yw eich bod chi’n dod i gymryd rhan; a da gweld yr eglwys ynghyd, o’r ieuengaf i’r hynaf, yn cymryd rhan gydag asbri, a’r cymysgedd o ganu cyfoes a charolau traddodiadol yn ymestyn o’r Cread i’r Croeshoeliad a’r Atgyfodiad. Wedi’r rownd gyntaf, y Gweinidog a’r PIMSwyr yn gadael! Beth yw hyn?

‘Roedd pobl ifanc eglwys Christ Church, Parc y Rhath yn disgwyl y PIMSwyr prynhawn heddiw am 3. Datblygiad newydd a chyffrous yw hwn. Cafwyd cyfarfod hwyliog a buddiol; a phobl ifanc y naill eglwys a’r llall yn dangos mor hawdd yw Undod Cristnogol. Diolch i’r bobl ifanc, eu harweinwyr ac i'r Parchedig Ddr Trystan Owain Hughes am y croeso. Ein braint fydd cael croesawu pobl ifanc Christ Church ym Minny Street ym mis Chwefror.

Liw nos, cydiasom o’r newydd yn y gyfres pregethau: Ffydd a’i Phobl. Hanfod y gyfres hon yw’r cwestiwn ‘Beth yw ffydd?’ Yn yr unfed bennod ar ddeg o’r Llythyr at yr Hebreaid, mae’r awdur yn mynd i’r afael â’r cwestiwn hwnnw. Sonnir ganddo am un ar bymtheg o bobl ffydd. Mae bywyd yr un a’r bymtheg hyn, bob un gyda’i gilydd yn ateb y cwestiwn: Beth yw ffydd? Bwriad y Gweinidog yw mynd â ni drwyddynt, fesul dau neu dri. ‘Rydym eisoes wedi hel meddyliau am Abel, Enoch a Noa; Abraham, Isaac, Jacob a Sara. Ym mis Tachwedd buom yn trafod Esau, Joseff, Amram a Jochebed, mam a thad Moses. Heno, Moses a Bitheia oedd testun ein sylw. Bitheia? Merch Pharo (1 Cronicl 4:17).

Trwy ffydd y gwrthododd Moses, wedi iddo dyfu fyny, gael ei alw yn fab i ferch Pharo - Bitheia - gan ddewis goddef adfyd phobl Dduw yn hytrach na chael mwynhau pechod dros dro, a chan ystyried gwaradwydd yr Eneiniog yn gyfoeth mwy na thrysorau’r Aifft, oherwydd yr oedd ei olwg ar y wobr (Hebreaid 11: 24-26). Mae Moses yn ein hatgoffa mai uniaethu ag eraill yw ffydd. Ofer ein siarad am y ‘rhai sy’n fyr o’n breintiau’, os nad ydym yn gweld bod y llwybr sydd yn arwain atynt yn dechrau wrth ein traed.

Trwy ffydd y gadawodd yr Aifft, heb ofni dicter y brenin, canys safodd yn gadarn, fel un yn gweld yr Anweledig (Hebreaid 11: 27). Mae Moses yn amlygu mai Ffydd yw gweld - ofer edrych heb weld. Hanfod crefydd yw nid ‘gwna!’ a ‘na wna!’ ond yn syml, ‘gwêl!’ Dim syndod felly, bod y Sais yn sôn am bobl grefyddol fel ‘observant’!

Felly cymerodd y wraig y plentyn a’i fagu. Wedi i’r plentyn dyfu i fyny, aeth ag ef yn ôl at ferch Pharo. Mabwysiadodd hithau ef a’i enwi’n Moshe, oherwydd iddi ddweud Mashah, hynny yw o’i gyfieithu ‘Tynnais ef allan’ o’r dŵr (Exodus 2:10). Mae Bitheia, fel yr hwn a gadwodd yr enw a roddwyd iddo ganddi - Moses -, hefyd yn dangos mai ffydd yw gweld: gweld cyfle i wneud yr hyn sy’n iawn; mynnu’r cyfle i ganfod y da sydd ym mhawb - ie, ym mhawb yn ddiwahân.

Sul llawn a gafwyd - llawn llawenydd, llawn bendith.