Ffydd a’i Phobl (4) (Hebreaid 11) - Moses (ii), Moses (iii) a Bitheia
Ym Mhennod 11 o’r Llythyr at yr Hebreaid sonnir am 16 o Bobl Ffydd, pob un yn cynnig rhan o’r ateb i’r cwestiwn: Beth yw ffydd?
Trwy ffydd y gwrthododd Moses … gael ei alw yn fab i ferch Pharo (Bitheia) gan ddewis goddef adfyd phobl Dduw yn hytrach na chael mwynhau pechod … (Hebreaid 11: 24-26). Rhywfodd daeth Moses i ddeall mai Hebrëwr oedd. Gwyddom iddo fynd allan at ei bobl (Exodus 2: 11), ac o weld eu hadfyd, gwylltiodd a lladdodd un o feistri gwaith Pharo. Gwelai’r Cristnogion cynnar gydymdeimlad Moses at ei bobl yn arwydd o’i ffydd yn Nuw. Ffydd yw uniaethu ag eraill. O’r dechrau bu bywyd yr un ynghlwm wrth fywyd y llawer: gwnawn ddyn ar ein delw ni (Genesis 1:26a) - awgryma’r lluosog gymdeithas. Bu’n rhaid i Moses dalu’n ddrud am hyn. Cafodd ei erlid gan Pharo, a’i amau gan ei bobl: Pwy a’th benododd di yn bennaeth …? (Exodus 2:14). Tebyg bu profiad Iesu: er iddo wacau ei hun, gan gymryd ffurf caethwas … (Philipiaid 2: 7), er iddo ddod o’i wirfodd i’n plith, ni dderbyniodd ei bobl ei hun mohono (Ioan 1:11b). Beth yw ffydd? Uniaethu ag eraill fel mae Duw yn uniaethu’i hun â ni. ‘Bod yn ddynol’ yw ceisio uniaethu â phob ‘bod dynol’. Gorchest bob ‘bod dynol’ yw ‘bod yn ddynol’. Ffydd yw talu pris cydymdeimlad.
Trwy ffydd y gadawodd yr Aifft … safodd yn gadarn, fel un yn gweld yr Anweledig (Hebreaid 11: 27) Cydiodd Moses mewn gweledigaeth; cydiodd y weledigaeth ynddo yntau. Bu galwad; bu ateb: Cymer Arglwydd, fe einioes i yw cysegru oll i ti. (Frances R. Havergal, 1836-79 cyf. John Morris Jones 1864-1929 C.Ff. 767). Talodd Moses yn ddrud; saif proffwyd rhwng dau dân - digio Duw oni ddywedir y gwir, a digio dynion os dywedir! Gallwn genfigennu ar Moses. Cawn, yn ein bywydau, adegau o ymrwymiad a phwrpas, ond weithiau pyla’r weledigaeth ac awn ar gyfeiliorn. Nid felly Moses: safodd yn gadarn, fel un yn gweld … . Edrychodd eraill, ond gwelodd Moses. Wrth edrych ar yr Hebreaid gwelodd Moses y potensial i fod yn genedl deilwng o addewidion ac ymddiriedaeth Duw. Sut mae sefyll yn gadarn? Philip a holodd Iesu: "Arglwydd, dangos i ni y Tad." Atebodd Iesu, "A wyf wedi bod gyda chi cyhyd heb i ti fy adnabod fi Philip? Y mae’r sawl sydd wedi fy ngweld i wedi gweld y Tad." (Ioan 14:8-9). Nid Duw sy’n sefyll draw ar ei ben ei hun yn galw am edmygedd yw ein Duw ni ond Duw sydd wedi dod yn agos atom yn Iesu ein Harglwydd. Dyna gyfrinach bod yn bobl sicr ein cam, hyderus ein hosgo, doed a ddelo. Gwybod fod Iesu’n agos.
Trwy ffydd y gwrthododd Moses … gael ei alw yn fab i ferch Pharo gan ddewis goddef adfyd phobl Dduw ... Bitheia (1 Cronicl 4:17), merch Pharo. Er cefnu ar y palas brenhinol, cadwodd Moses yr enw a roddwyd iddo gan Bitheia. O’i weld yn y cawell ac er gwybod am orchymyn ei thad i ladd y gyntaf anedig, safodd hon yn gadarn. Bu Miriam yn feiddgar yn cynnig bod y baban yn cael ei fagu gan ei fam, Jochebed. Wedi i’r plentyn dyfu i fyny, aeth ag ef yn ôl at ferch Pharo. Mabwysiadodd hithau ef a’i enwi’n Moshe, oherwydd iddi ddweud Mashah, hynny yw o’i gyfieithu ‘Tynnais ef allan’ o’r dŵr (Exodus 2:10) Perchnogodd Bitheia y perygl. Dyma ddewrder! Pa ryfedd i Moses gadw’r enw a ddewiswyd ganddi! Beth yw ffydd? Gweld y cyfle i wneud yr hyn sydd iawn. Ffydd yw mynnu cael gweld y da ynghudd yn y ‘gwaethaf’.
Beth yw ffydd?
Fe’n hatgoffir gan Moses mai uniaethu ag eraill yw ffydd. Ofer siarad am y ‘rhai sy’n fyr o’n breintiau’ heb weld bod y llwybr sydd yn arwain atynt yn dechrau wrth ein traed.
Amlyga Moses mai ffydd yw gweld. Hanfod crefydd yw nid ‘gwna!’ a ‘na wna!’ ond ‘gwêl’!
Dangos Bitheia mai ffydd yw gweld cyfle i wneud yr hyn sy’n iawn; mynnu’r cyfle i ganfod y da sydd ym mhawb yn ddiwahân.