Beth a roddaf iddo,
llwm a thlawd fy myd?
Pe bawn fugail rhoddwn iddo
orau’r praidd i gyd;
pe bawn un o’r doethion
gwnawn fy rhan yn ddigoll:
ond pa beth a roddaf?
Fy mywyd oll
(Christina Rossetti, 1830-94 cyf. Simon B. Jones, 1894-1964 CFf.:466)
Caspar, Melchior a Balthasar.
Aur, thus a myrr.
Aur i’r brenin.
Thus i Dduw mewn cnawd.
Myrr i’r dioddefydd.
Yn y tri hyn, AUR, MYRR a THUS gwelir Fy mywyd oll.
Canolbwynt ein defosiwn heddiw fydd THUS.
THUS - Frankincense - incense - arogldarth.
... ym mhob man offrymir arogldarth ac offrwm pur i’m henw ... (Malachi 1:11a)
Mae AUR yn cynrychioli trysor, llwyddiant a bendith.
Mae MYRR yn cynrychioli colled, poen a hiraeth.
Gall THUS gynrychioli’r arferol; cyffredinedd beunydd beunos.
Felly, i ddechrau ymdawelwn, ymlonyddwn gan ganolbwyntio ar bresenoldeb Duw...
Ystyriwn THUS ein byw a’n profiad:
Codi’r bore...
Paned, papur, pader...
Paratoi bwyd, golchi llestri...
Cerdded y ci...
Cadw tŷ
Gofynion...
Gweithio...
Gofalu...
Gweini...
Gwarchod...
Gwasanaethu...
Teulu, cyfeillion, cymdogion...
Cynhaliaeth a chydymdeimlad...
Haelioni a llawenydd...
Tensiwn a blinder.
Noswylio...
Ffydd...
Gobaith...
Cariad...
Boed Duw yn agos atom, a’i gwmni'n gymorth i fyw.
Bydded fy ngweddi fel arogldarth o’th flaen ... (Salm 141: 2a).
(OLlE)